Am yr ardal

Pen Llŷn a’r Sarnau yw un o’r safleoedd morol mwyaf sydd wedi’i ddynodi yn y DU. Mae nifer fawr o wahanol bethau yn digwydd i’r safle ar adegau, fel sy’n wir gyda nifer o ardaloedd morol. Mae’r rhain yn cynnwys datblygiadau, gweithgareddau hamdden, diwydiant a chadwraeth. Oherwydd yr amrywiaeth hyn o bethau, rhaid rheoli’r safle trwy geisio cael cydbwysedd rhwng y gweithgareddau hyn a hybu datblygiadau cynaliadwy ac arfer da gyda’r holl weithgareddau i helpu i ddiogelu’r amgylchedd morol a sicrhau ei fod yn parhau i gefnogi nifer o wahanol fuddiannau a defnyddiau.

Cadwraeth

Roedd nifer o ddynodiadau’n bodoli cyn i’r ACAau a’r AGAau (Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig - i ddiogelu rhywogaethau adar) gael eu dynodi, gan gynnwys:

  • Safleoedd RAMSAR
  • SoDdGAu 
  • AHNEau 
  • Gwarchodfeydd biosffer
  • Arfordiroedd Treftadaeth
  • Safleoedd bywyd gwyllt
  • Parciau cenedlaethol
  • Gwarchodfeydd Natur Lleol
  • Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
     

Er bod pob un o’r rhain yn yr ardal cyn yr ACAau a’r AGAu, ac yn parhau i fodoli hyd heddiw, nid yw’r un ohonynt yn ymestyn i’r amgylchedd morol. Gall gwarchodfeydd natur morol ymestyn i’r amgylchedd morol, ond dim ond tri o’r rhain sydd yn y DU gyfan. Felly, mae ACAau wedi bod yn gam pwysig ymlaen wrth helpu i ddiogelu ein hamgylchedd morol lleol.

Yn ogystal â rheoli safleoedd cadwraeth morol dynodedig, mae nifer o wahanol grwpiau a sefydliadau anllywodraethol, megis Cymdeithas Cadwraeth y Môr ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn gweithio i ddiogelu’r amgylchedd morol.

Am ragor o wybodaeth am fathau eraill o waith cadwraeth neu grwpiau cadwraeth yn yr ardal cliciwch yma.

Hamdden

Mae Pen Llŷn a’r Sarnau yn ardal drawiadol dros ben. Mae yma arfordiroedd cysgodol a gwyntog, baeau mawr a bach, traethau creigiog a thraethau tywod. Mae gennym arfordir sydd fwy neu lai’n ddelfrydol ar gyfer y rhan fwyaf o weithgareddau hamdden megis caiacio, cerdded, deifio, nofio, hwylio, syrffio, marchogaeth i restru dim ond rhai. Mae’r ardal yn bwysig yn rhyngwladol o safbwynt hamdden, gyda’r marina ym Mhwllheli yn cynnal nifer o ddigwyddiadau a chystadlaethau hwylio yn flynyddol. Nid ceisio atal y digwyddiadau hyn yw nod yr ACA, ond sicrhau eu bod yn cael eu cynnal gan fod yn ystyriol o’r amgylchedd morol. 

Am ragor o wybodaeth am grwpiau gweithgareddau lleol a’u mentrau amgylcheddol cliciwch yma.

 

Diwydiant

Mae nifer o ddiwydiannau sy’n gweithio o fewn yr ACA neu gerllaw'r ACA, gan gynnwys trefnwyr teithiau cychod, ffermio, pysgota ac adeiladau diwydiannol. Mae diwydiant yn hanfodol i gynaliadwyedd economaidd a thwf yr ardal, ac mae nifer o’r diwydiannau hyn yn rhai traddodiadol ac yn rhan bwysig o hanes a dyfodol yr ardal. Nod yr ACA yw asesu effaith posib unrhyw weithgareddau sy’n digwydd yn yr ardal, gan reoli’r safle yn unol â hynny.

Am ragor o wybodaeth am ddiwydiant lleol cliciwch yma.

Datblygiadau

Mae datblygiadau ar waith ledled y wlad. Mae datblygiadau a allai gael effaith ar yr ACA yn amrywio o lithrfeydd ac amddiffynfeydd arfordirol, i farinas a chynhyrchu ynni alltraeth. Pan gyflwynir cynlluniau neu fwriadau am ddatblygiadau fel y rhain, rhaid ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys y goblygiadau i’r ACA. Os bydd caniatâd yn cael ei roi i fwriad sy’n debygol o gael effaith niweidiol ar ACA, ar sail rhesymau economaidd neu ddiogelwch cyffredinol, fel arfer bydd angen gwneud yn iawn am yr effaith. Gallai hyn gynnwys creu cynefin newydd neu welliannau i wneud rhywfaint o iawn am yr effaith. 

01286 679495