Y Morlo Llwyd – Halichoerus grypu

Mae’r morloi llwydion Halichoerus grypus ymhlith y morloi prinaf yn y byd – mae oddeutu 40% ohonynt yn byw yn y DU ac oddeutu 95% o rai’r UE hefyd yn byw yn y DU. 

Ar ddechrau’r tymor magu, mae gan Brydain Fawr oddeutu 124,000 o forloi llwydion gyda 300-400 arall o amgylch Ynys Manaw a Gogledd Iwerddon. Ceir safleoedd geni (heidiau) ar sawl arfordir rhwng yr Ynysoedd Sili yn ne-ddwyrain Lloegr ac wrth fynd i’r dde o amgylch arfordir y DU i Donna Nook yn Swydd Lincoln. Mae’r mwyaf o’r heidiau hyn yn Ynysoedd Hebrides Mewnol ac Allanol, Ynysoedd Erch, Ynys May, Ynysoedd Farne a Donna Nook. Mae llai na 15% o loi yn cael eu geni mewn mannau ac eithrio yn yr heidiau hyn ond mae nifer o forloi magu pwysig ar arfordir y Gorllewin. Ers blynyddoedd hwyr y 1970au, nid yw’r un drwydded yn cael ei rhoi yn y DU ar gyfer hela’n fasnachol nac ychwaith fesurau rheoli ar raddfa fawr ac, ers hynny, mae nifer y morloi yn codi’n sylweddol.

Oherwydd bod nifer yr anifeiliaid hyn yn eang ac y credir eu bod yn cydgymysgu, anodd ofnadwy yw amcangyfrif yn hyderus nifer y morloi yn yr ACA. Amcangyfrifodd Westcott (2002) yn fras bod 365 o forloi llwydion yng ngogledd Cymru, a hyn yn seiliedig ar ddata lloi a gasglwyd yn ystod arolwg yn 2001. Fodd bynnag, roedd nifer y morloi llwydion yn nyfroedd gogledd Cymru, ym mhob safle ymlacio, yn fwy na hyn gyda dim llai na 700-750 o forloi yn y gaeaf a’r nifer uchaf (ym misoedd Mehefin, Gorffennaf ac Awst) oddeutu 1100 (Westcott, et al 2003). Mae hyn yn adlewyrchu’r pellter y mae’r morloi’n mynd ym Môr Iwerddon ac efallai y tu draw i hynny.

Yn ACA Pen Llŷn a’r Sarnau mae nifer o safleoedd pwysig lle mae morloi llwydion yn ymlacio, er mwyn geni ac fel arall hefyd – safleoedd sy’n dibynnu ar y cynefinoedd eraill i’w cynnal. Ni wyddys beth yn union yw gofynion y morlo llwyd o ran ei gynefin – yn aml iawn nid oes morloi mewn cynefinoedd sydd i’w gweld yn rhai addas. Yn yr ACA mae’r morlo yn gwneud ei gynefin mewn mannau creigiog rhynglanwol, ar draethau creigiog  a thraethau clogfeini / cerrig, mewn ogofâu sydd yn wyneb y llanw ac, o bryd i’w gilydd, ar draethau tywodlyd a thraethellau tywod sydd yn wyneb y llanw. Yng ngogledd Cymru ac yn yr ACA yn benodol, mae ogofâu môr yn gynefin pwysig o ran cynhaliaeth, gydag oddeutu 67% o forloi yn geni mewn ogofâu yn 2002 (Westcott, et al., 2003) a’r gweddill yn geni ar draethau. Mae’r rhan fwyaf o’r safleoedd ymlacio o amgylch gogledd-orllewin yr ACA, safle sy’n cynnwys Ynys Enlli.  

Ni wyddys am arferion bwydo’r morloi llwydion yng ngogledd Cymru ond go brin eu bod yn sylweddol wahanol i forloi llwydion sydd mewn mannau eraill. Mae morloi llwydion yn bwydo llawer ar wely’r môr ac yn agos iddo, gan fwydo ar amrywiaeth eang o bysgod gan gynnwys llymrïod. Ni wyddys fawr ddim am faint o fwyd sydd ar gael yn yr ACA a thu draw iddi na’i ansawdd ond gan fod oddeutu cant o loi wedi’u geni’n flynyddol dros y blynyddoedd diweddar yr arwydd yw bod digon o fwyd ar gael. 

Gwyddys bod ystod o heintiau feirol, bacterol a pharasitig yn endemig ymhlith morloi ond, ac eithrio y feirws phocine distemper epizootic (PDV), nid ydynt yn cael fawr ddim effaith ar yr oedolion iach yn eu plith nad ydynt dan straen. Roedd yr achos o PDV yn 2002 yn ymestyn o amgylch basn Môr y Gogledd a chyn belled i’r gogledd ag Arfordir Môr Iwerddon. Er ei fod, gan mwyaf, yn achosi marwolaeth ar raddfa fawr ymhlith y morloi cyffredin (morloi harbwr), bu farw rhai morloi llwydion hefyd ar arfordir Prydain  (SMRU, 2002). Ni bu cofnod o PDV ym morloi gogledd Cymru a chymrir bod eu hiechyd ffisiolegol fel grŵp rhanbarthol yn dda. 

Un o’r ystyriaethau allweddol ar gyfer gwarchod y morlo llwyd yn yr ACA yn benodol, ac fel rhan o nifer estynedig yng ngogledd Cymru a thu draw iddo, yw pobl yn tarfu ar safleoedd magu ac ymlacio. Ac eithrio nifer fechan, mae morloi yn yr ACA yn dewis ymlacio ar draethau creigiog neu mewn ogofâu môr nad oes modd i bobl gael atynt ar hyn o bryd. Mewn ardaloedd lle ceir llawer o ddylanwad pobl wrth iddynt gerdded yr arfordir, mynd allan mewn cychod, pysgota neu unrhyw weithgaredd arall, nid yw’r morlo llwyd fel arfer yno er y byddai, ar un adeg, wedi bod. Materion eraill i’w hystyried yw morloi yn mynd yn sownd mewn leiniau a rhwydi ac yn cael eu dal yno, llygredd a dim digon o fwyd ar gael neu newid yn y bwyd hwnnw.

01286 679495