Cod Morol

Roedd y cod ar gyfer defnyddwyr hamdden morol yng Ngwynedd wedi dyddio, felly lansiwyd cod newydd yn 2016. Yn dilyn llwyddiant proses debyg yng Ngheredigion, cynhaliwyd trafodaethau â'r swyddogion perthnasol a chytunwyd i rannu'r un cod rhwng y ddwy sir. Roedd hyn yn osgoi dyblygu a bydd yn cynnal cysondeb ar draws y bae. Mae'r cod yn egluro sut i ymddwyn yn gyfrifol a pharchu bywyd gwyllt morol. Dyma bwyntiau allweddol o'r cod:

  • Cadwch olwg am fywyd gwyllt
  • Cadwch draw
  • Lleihau cyflymder a sŵn

Gyda chydweithrediad yr uned forwrol yng Nghyngor Gwynedd, dosberthir y cod i'r rheini sydd wedi cofrestru i lansio yng Ngwynedd. Mae'r swyddog prosiect hefyd wedi bod yn bresennol mewn safleoedd lansio i annog pobl i ddilyn y cod.

Ar ôl cysylltu gyda'r ddau Gyngor, mae Ynys Môn a Chonwy bellach wedi mabwysiadu'r côd, sy'n golygu y bydd cysondeb o Geredigion i Gonwy. Mae gan y ddau Gyngor yr un cynllun cofrestru â Gwynedd, felly bydd pob person cofrestredig â chwch yn cael copi. Cynhaliwyd sesiynau galw i mewn er mwyn cynnig gwybodaeth i ran-ddeiliaid cyn anfon y côd allan. Bydd y swyddog prosiect yn parhau i fod â phresenoldeb mewn safleoedd lansio i hyrwyddo'r côd yn ystod tymor yr haf.

Cod Morol Gwynedd
Cod Morol Ynys Môn
Cod Morol Conwy
Cod Morol Ceredigion

Cod Ymddygiad Afon Menai

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni:

info@penllynarsarnau.co.uk
01286 679 495

01286 679495