Prosiect Lagŵn Morfa Gwyllt

Mae un lagŵn arfordirol o fewn yr ACA, lagŵn Morfa Gwyllt, sydd wedi'i leoli ar ochr ddeheuol ceg Afon Dysynni. Mae Morfa Gwyllt yn lagŵn treiddio bach, yr unig un o'i fath yng Nghymru.

Mae lagŵn Morfa Gwyllt yn lagŵn bach, bas sy'n sensitif i nifer o effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol. Ar hyn o bryd, ystyrir bod y lagŵn mewn cyflwr anffafriol oherwydd lleihad yn nifer y rhywogaethau arbenigol lagŵn ac amrywiaeth y rhywogaethau sy'n gysylltiedig â chymunedau bywyd gwyllt y lagŵn. Er efallai y disgwylir rhywfaint o amrywiaeth i'r rhywogaethau yn y lagŵn, mae lleihad yn y rhywogaethau a gofnodir yn yr arolygon monitro yn bryder. Mae tystiolaeth amlwg o'r effeithiau ar y lagŵn, yn fwyaf nodedig gan feiciau modur yn defnyddio'r ardal tafod graean, ysbwriel ac effaith bosib gan gŵn yn y lagŵn a baeddu yn yr ardal gyfagos.

Mae'r prosiect yn anelu i edrych ar y materion sy'n effeithio ar y lagŵn a datblygu prosiect cymunedol i fynd i'r afael â nhw. Bydd y gwaith yn cynnwys:

  • Mesurau rheoli ymarferol
  • Codi ymwybyddiaeth
  • Monitro
  • Ymgysylltu â rhan-ddeiliaid

Mae'n hanfodol bod y gymuned leol a defnyddwyr y safle yn cymryd rhan yn y prosiect hwn i sicrhau llwyddiant hirdymor y prosiect. Bydd y gymuned leol, defnyddwyr gwasanaeth a rheolwyr safle yn cael eu cynnwys ymhob cyfle.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni:

info@penllynarsarnau.co.uk
01286 679 49

01286 679495