Prosiect Morwellt Porthdinllaen

Mae Porthdinllaen yn bentref bychan arfordirol sy'n gorwedd ar arfordir gogleddol Pen Llŷn ger pentref Morfa Nefyn ac fe saif ar ben mwyaf gogleddol ACA Pen Llŷn a'r Sarnau.  Mae'n lleoliad godidog sy'n cynnwys nifer fechan o adeiladau a thŷ tafarn y Tŷ Coch yn y canol. 

Porthladd pysgota oedd Porthdinllaen yn wreiddiol, a hynny yn sgil y bae cysgodol mawr a thros 40 ha o angorfeydd cysgodol sydd yno.  Mae'r harbwr naturiol hwn yn lloches diogel i gychod yn y cyffiniau.  Heddiw, yn sgil amodau cysgodol naturiol y bae, mae nifer o gychod pysgota graddfa fechan a nifer fawr o gychod hamdden yn defnyddio Porthdinllaen. 

Mae Porthdinllaen hefyd yn arbennig ar gyfer ei dirwedd, ei forlin a'i fywyd gwyllt.  Ceir cyfoeth o gynefinoedd a bywyd gwyllt, gan gynnwys morwellt, yn y môr o amgylch Porthdinllaen.  Ar lanw isel, gallwch weld y morwellt yn ymestyn allan tua'r bae.   Mae morwellt yn rhan annatod o’r ACA ac yn un o’r rhesymau pam fod yr ardal hon mor arbennig.  Mae gwely morwellt Porth Dinllaen yn un o’r rhai mwyaf a’r dwysaf yng ngogledd Cymru ac mae arolygon diweddar yn amcangyfrif fod ei arwynebedd gyfystyr â 46 cae pêl-droed.

Mae'r morwellt ym Mhorthdinllaen yn rhan o nodwedd gwastadeddau llaid a thywod rhynglanwol ACA PLAS. Mae'r nodwedd hon mewn cyflwr anffafriol. Un rheswm am hyn yw effaith angori ac angorfeydd ar y morwellt ym Mhorthdinllaen.

 

01286 679495