Diweddariadau

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ACA Pen Llŷn a'r Sarnau wedi gweithredu nifer fawr o brosiectau i helpu i wella cyflwr y safle. Dyma rai uchafbwyntiau:

  • Cyfnod prawf llwyddiannus o ddefnyddio angorau heligol yn harbwr mewnol Porthdinllaen - bydd hyn yn cynorthwyo i leihau effaith angorfeydd ar y morwellt
  • Rhyddhau rhifynnau cyntaf ac ail o'r cylchgrawn O Dan y Don 
  • Creu nifer o lwyfannau digidol ar gyfer y safle
  • Yr orsaf #2minutebeachclean gyntaf yng Ngogledd Cymru yn cael ei lletya yn Mwyty Dylan's, Cricieth 
  • Cynhyrchu Pecyn Addysg i helpu i godi ymwybyddiaeth mewn ysgolion
  • Gosod paneli ynghylch tarfu ar loi morloi i sicrhau pobl bod y rhan fwyaf o'r lloi bach yn iawn a bod angen i bobl adael llonydd iddynt 
  • Gweithredu prosiect ar raddfa'r dalgylch, Tir a Môr, lle roeddem yn edrych ar reoli'r tir a'r môr gyda'i gilydd; roedd y gweithgareddau'n cynnwys:
    • Treialu cynllun talu am ddeilliannau
    • Gwella rheolaeth cynefinoedd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru
    • Gwella ansawdd dŵr yn nalgylch Daron
    • Ystyried opsiynau ar gyfer adfer a rheoli rhywogaethau, gan gynnwys dyfrgwn a chimychiaid coch
    • Gwella rheolaeth yn yr amgylchedd morol 
  • Cynhaliom seminar morwellt byd-eang yn 2016 lle’r oedd gwyddonwyr a rheolwyr morol o bedwar ban y byd yn bresennol.  

Rydym yn anelu at gynhyrchu diweddariadau diddorol a llawn gwybodaeth ar y gwaith a wnawn. Rydym yn darparu'r wybodaeth hon drwy nifer o ffynonellau, gan gynnwys adroddiadau cynnydd, drwy O Dan y Don, drwy ddiweddariadau e-bost a thrwy ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Adroddiad Cynnydd PLAS 2016 - 18 

Adroddiad Cynnydd PLAS 2018 - 20

01286 679495