Ble mae’r ACA?

Mae ACA Pen Llŷn a’r Sarnau yng ngogledd orllewin Cymru. Mae’n un o’r ACAau morol mwyaf yn y DU, yn ymestyn ar hyd bron i 230km o arfordir ac yn cynnwys ardal o tua 146,023 hectar. Mae’r safle yn ymestyn o Benrhyn Nefyn ar arfordir gogleddol Llŷn i aber Afon Clarach tua milltir i’r gogledd o Aberystwyth ar arfordir gorllewinol Cymru.

Mae ffiniau ACAau morol tua’r môr yn cael eu dwyn cyn agosed â phosib er mwyn cynnwys y buddiannau cymwys, ond mewn llinellau syth rhwng tirnodau neu fwiau neu mewn mannau agored ar y môr i sicrhau hwylustod marciau ar siartiau mordwyo. Pan gynhwysir ardaloedd rhynglanw yn ACA Pen Llŷn a’r Sarnau, mae ffin yr ACA tua’r tir wedi cael ei llunio i gynnwys rhywogaethau / cynefinoedd bywyd gwyllt y safle – yn yr achosion hyn, mae’r ffin tua’r tir yn amrywio’n fawr ar hyd yr arfordir, a gall ddilyn nodwedd arfordirol megis ffens/wal ar frig neu ar waelod llethr arfordirol, neu gall ddilyn terfyn penllanw ar fap, neu ben terfynau llystyfiant ar hyd clogwyn sydd ar fap. Pan na chynhwysir ardaloedd rhynglanw mewn ACA morol, mae’r ffin tua’r tir fel arfer yn dilyn trai cymedrig yn gyffredinol. Ystyrir bod yr ardaloedd rhynglanw yn rhan annatod o ddiddordeb cadwraeth morol y safle, ac yn elfen hanfodol o’r nodweddion y mae’r safle wedi cael ei ddewis ar eu cyfer.

 

01286 679495