Pen Llŷn a'r Sarnau logo

Pam fod y safle’n bwysig?

Rhoddir y teitl Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ar ardal o dir neu fôr yn Ewrop sydd gydag enghreifftiau da o gynefinoedd a bywyd gwyllt penodol. Mae gan ACA Pen Llŷn a’r Sarnau ddeuddeg o’r rhain a bwriad yr ACA yw bod o gymorth i’w gwarchod.

Riffiau

Mae riffiau Pen Llŷn a’r Sarnau yn rhai o’r enghreifftiau mwyaf anghyffredin ac unigryw yn y wlad gan amrywio o’r riffiau llyngyr diliau byw sy’n ymestyn ar hyd ein traethau tywodlyd, i riffiau clogfaen eang y Sarnau. Yn ogystal, yn ddiweddar bu i ni ddarganfod mai ni sydd â’r unig riff fyrlymol yn y Deyrnas Unedig!

Am ragor o wybodaeth am riffiau’r ACA cliciwch yma.

Ogofâu Môr

Mae sawl ogof fôr wedi ei gwasgaru hyd a lled yr ardal gyda’r nifer fwyaf i’w canfod ym Mhen Llŷn. Mae ogofâu môr yn fannau hynod gyffrous sy’n llawn creaduriaid yn ceisio lloches rhag awyrgylch agored y clogwyni. Mae’r anifeiliaid yma’n amrywio o chwistrellau môr tryloyw ac anemoni lliwgar, i wymon, llygaid maharan a cên môr. Yn ogystal, ogofâu môr yw un o hoff fannau gorffwys y morloi llwyd. Mae gan rai ogofâu siliau ynddynt, fel a geir yn yr ogof Ddwy Lefel ar Ynysoedd Tudwal. Bydd morloi’n defnyddio’r siliau hyn fel gwelyau!        

Am ragor o wybodaeth am ogofâu môr yr ACA cliciwch yma.

Aberoedd, morfeydd heli a Salicornia

Mae gan ACA Pen Llŷn a’r Sarnau dair prif aber sy’n bur wahanol i’r rhai y dewch ar eu traws fel arfer gan eu bod yn bennaf dywodlyd, yn hytrach na’n lleidiog. Mae’r tair aber yn hynod bwysig gan eu bod yn darparu lloches ar gyfer llawer o greaduriaid ac maent yn ardal fagu hanfodol ar gyfer pysgod megis hyrddiaid, lledod a draenogiaid y môr. Daethpwyd o hyd i lysywen bendoll yn sugno pysgodyn yn aber Mawddach hyd yn oed! Gan fod y rhain yn ardaloedd sydd â chyfoeth o greaduriaid ynddynt, mae nifer o anifeiliaid i’w gweld yma’n chwilota am fwyd, gan gynnwys dyfrgwn a morloi llwyd.

Am ragor o wybodaeth am aberoedd yr ACA cliciwch yma.

Mae’r tair aber yma wedi eu hymylu â morfeydd heli, sy’n cynnwys morfeydd heli’r Iwerydd a Salicornia. Mae planhigion y forfa heli’n wydn iawn a chyfeirir atynt yn aml fel arloeswyr, gan mai’r rhain yw’r rhai cyntaf i dyfu yn y fath awyrgylch hallt. Planhigyn y forfa heli yw Salicornia a hwn yw’r planhigyn sy’n tyfu agosaf at yr heli. Mae o gymorth i sefydlogi’r tywod a’r llaid, gan alluogi i blanhigion eraill dyfu. Mae planhigion y forfa heli, ynghyd â’r cilfachau a’r culforoedd sy’n ffurfio rhyngddynt, yn rhoi cysgod a lloches i lawer o anifeiliaid sy’n amrywio o grancod a physgod bychan yn y dŵr, i bryfetach ac adar ar y tir. Gall morfeydd heli Pen Llŷn a’r Sarnau ddarparu porfeydd gwych ar gyfer ŵyn, ac yn ôl y sôn, gwerthir yr ŵyn hyn am brisiau uchel iawn. 

Am ragor o wybodaeth am forfeydd heli’r Iwerydd yr ACA cliciwch yma.

Am ragor o wybodaeth am Salicornia’r ACA cliciwch yma.

Banciau Tywod

Mae banciau tywod yr ACA yn hynod wahanol i’r cynefinoedd a gyfeiriwyd atynt hyd yma. Mae’r rhain wedi eu ffurfio o dwmpathau o dywod sy’n ffurfio gwahanol strwythurau a siapiau dan wyneb y dŵr. Ar yr olwg gyntaf, gall y banciau tywod ymddangos braidd yn hesb, ond edrychwch yn ofalus ac fe welwch bod miloedd o anifeiliaid wedi gwneud yr ardaloedd tywodlyd hyn o wely’r môr yn gartref iddynt eu hunain. Mae llawer wedi eu claddu fymryn dan wyneb y tywod, ac mae gan eraill guddliw mor wych fel y byddai’n cymryd llygaid craff iawn i sylwi arnynt. Mae llawer o greaduriaid yn rhannu’r banciau tywod, gan amrywio o fwydod, pysgod cregyn i berdys, crancod a sêr-bysgod. Mae llawer o’r rhain yn darparu bwyd ar gyfer anifeiliaid eraill y môr a gall banciau tywod fod yn ardaloedd bwydo pwysig.     

Am ragor o wybodaeth am fanciau tywod yr ACA cliciwch yma

Lagynau

Mae lagynau yn gynefinoedd bywyd gwyllt anarferol. Maent yn ardaloedd o ddŵr sydd naill ai wedi eu gwahanu o’r môr neu wedi’u gwahanu o’r môr gan fanc. Mae lagynau yn brin iawn yn y DU ond mae gennym un yn yr ACA, sef lagŵn Morfa Gwyllt. Mae lagynau yn fannau anodd iawn i anifeiliaid a phlanhigion fyw ynddynt, ac o ganlyniad, ychydig iawn o anifeiliaid sy’n byw yno. Fodd bynnag, mae’r rhai sy’n byw yno yn greaduriaid hynod arbenigol. Yn lagŵn Morfa Gwyllt, mae 14 o wahanol anifeiliaid a phlanhigion wedi eu canfod. Cymharwch hyn ag ardal ym Mae Tremadog ble mae cannoedd o wahanol anifeiliaid yn byw mewn ardal o oddeutu troedfedd sgwâr – mae’r gwahaniaeth yn amlwg! 

Am ragor o wybodaeth am lagynau’r ACA cliciwch yma.

Gwastadeddau llaid a gwastadeddau tywod

Mae gwastadeddau llaid a gwastadeddau tywod, fel ei gilydd, yn ardaloedd o laid neu dywod sydd wedi’u gorchuddio â dŵr bas ac fe’u dadorchuddir pan fo’r llanw’n mynd allan. Yn yr un modd â’r banciau tywod, ar yr olwg gyntaf mae’n ymddangos bod y rhain yn fannau gweddol hesb, ond, mae’r anifeiliaid yma yn hynod glyfar. Mae’r rhan fwyaf o’r anifeiliaid sy’n byw yma o dan y tywod neu’r llaid ac mae hyn o gymorth iddynt beidio â chael eu gweld a chael eu bwyta. Yn ogystal, mae hyn yn atal y llanw rhag eu cario i ffwrdd. Pan fo’r llanw yn mynd allan, gallwch ddod o hyd i gannoedd o adar yma, yn bwydo ar anifeiliaid sy’n cuddio yn y tywod a’r llaid. Waeth pa mor ddwfn fydd yr anifeiliaid yn cuddio, mae gan rai adar big digon hir i gyrraedd atynt. 
Am ragor o wybodaeth am wastadeddau llaid a gwastadeddau tywod yr ACA cliciwch yma.  

Cilfachau a baeau bas mawr

Ar hyd unrhyw ran o arfordir, rydych yn debygol o ddod o hyd i nifer o gilfachau a baeau bychan. Bydd llawer ohonynt yn cael eu defnyddio fel harbyrau naturiol neu fannau ble mae pobl yn hoffi nofio a mwynhau’r amgylchiadau tawel. Fel mae’r enw’n ei awgrymu, fersiwn fwy o’r baeau bychan hyn yw’r cilfachau a’r baeau bas mawr. Mae gennym ni un o’r rhain yn ACA Pen Llŷn a’r Sarnau SAC, sef Bae Tremadog. Mae llawer o anifeiliaid yn byw yma ond mae’r bae’n weddol anarferol gan fod y dyfroedd oddeutu 2°C yn gynhesach na gweddill y môr yn yr haf ac oddeutu 2°C yn oerach yn y gaeaf. Mae hyn yn effeithio’n fawr ar y mathau o greaduriaid sy’n byw yma ac yn aml yma fe ddewch o hyd i anifeiliaid na fuasech yn dod ar eu traws ymhellach i’r gogledd. Ym 1999, daethpwyd o hyd i’r berdys mantis tyrchol o gwmpas Ynysoedd Tudwal. Dyma anifail sydd i’w ganfod yn arferol yn ardal Môr y Canoldir! 

Am ragor o wybodaeth am gilfachau a baeau bas mawr yr ACA cliciwch yma.

Dolffiniaid Trwynbwl

Mae’n wir, mae gennym ddolffiniaid trwynbwl yma! Yn y DU, mae dwy brif ardal ble rydym yn ymwybodol bod dolffiniaid trwynbwl yn byw; Bae Ceredigion yng Nghymru a Moray Firth yn yr Alban. Rydym yn hynod ffodus bod gogledd Bae Ceredigion yn ein ACA ni. Er bod y dolffiniaid yn byw gan amlaf ym Mae Ceredigion, maent yn teithio cryn dipyn ac maent wedi cael eu gweld hyd a lled yr ACA. Felly’r tro nesaf y byddwch yn mynd am dro ar hyd yr arfordir, cadwch eich llygaid ar agor amdanynt. Maent yn anifeiliaid hynod fywiog ac maent wrth eu boddau’n chwarae. Yn aml, gallwch eu gweld yn gwneud campau a hyd yn oed yn nofio ar frig y tonnau!

Am ragor o wybodaeth am ddolffiniaid trwynbwl yr ACA cliciwch yma.

Morloi Llwyd

Morloi llwyd yw un o’r mathau mwyaf prin o forloi a geir yn y byd. Mae bron i hanner poblogaeth y byd o forloi llwyd yma yn y DU! Maent yn gyffredin iawn hyd ein glannau a gellir eu gweld yn aml yn torheulo ar y creigiau neu’n nofio yn y môr. Bydd gofyn cael llygaid craff i’w gweld gan eu bod yr un lliw â’r creigiau! Maent yn greaduriaid hynod fusneslyd, ac nid oes un dim yn well ganddynt na gweld beth ydych chi yn ei wneud. Os byddwch yn cerdded ar hyd yr arfordir a bod morlo gerllaw, mae’n bur debygol ei fod wedi’ch gweld a’i fod yn eich llygadu! 

Am ragor o wybodaeth am forloi llwyd yr ACA cliciwch yma.

Dyfrgwn

Mae gennym rai dyfrgwn hynod arbennig yma yn yr ACA. Nid yn unig maent yn chwilota yn yr afonydd a’r llynnoedd, ond maent hefyd yn bwydo yn y môr. Mae dyfrgwn angen mynediad i dir er mwyn gorffwys ac er mwyn magu eu rhai bach, ond maent ar eu mwyaf sionc yn y dŵr. Bydd gofyn i’r dyfrgwn sy’n bwydo yn y môr fod yn agos at ddŵr croyw fel y gallant olchi’r heli o’u ffwr. Mae hyn yn helpu i’w ffwr aros yn wrth-ddŵr. Mae dyfrgwn wrth eu boddau’n hela pysgod, yn enwedig am bethau megis llysywod, llyfrothod a gwrachod môr. Yn ystod y 1960au a’r 70au, bu i’r boblogaeth ddyfrgwn ddirywio’n sylweddol, ond ers hynny, mae wedi bod yn cynyddu’n raddol unwaith eto.

Am ragor o wybodaeth am ddyfrgwn yr ACA cliciwch yma.

Rhynglanw Y dyfrgi


© Pen Llŷn a'r Sarnau