Codau ymddygiad

Cod Morol ar gyfer llongau a chychod hamdden

Mae cychod wedi cael ei ddefnyddio yn nyfroedd Cymru ers canrifoedd ac mae dolffiniaid a bywyd gwyllt arall dal yma.  Felly pam y gofynnwyd i ddefnyddwyr cychod dilyn cod morol rŵan?  Mae nifer o resymau am hyn gan gynnwys nifer cynyddol y cychod cyflym, hydrin iawn sydd bellach mewn defnydd a’r cynnydd yn y nifer o gychod hamdden sydd mewn defnydd yn gyffredinol. Mae’r cychod hyn yn gallu amharu ar fywyd gwyllt a hyd yn oed achosi niwed iddynt.

Mae nifer o Godau Morol wedi cael eu cynhyrchu sydd yn amlinellu canllawiau synhwyrol a fydd yn lleihau’r aflonyddwch i fywyd gwyllt a sicrhau na thorrir cyfreithiau’r DU sydd yn ei ddiogelu.

Erbyn hyn mae Ceredigion, Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy yn dilyn yr un Cod Morol. Yr un wybodaeth sydd ym mhob côd heblaw pan fod angen gwybodaeth leol. 

Yn gyffredinol byddwch yn wyliadwrus gan gadw draw o fywyd gwyllt. Peidiwch â mynd at famaliaid môr, gadewch iddynt ddod atoch chi.

  • Cadwch olwg am fywyd gwyllt
  • Cadwch draw
  • Lleihau cyflymder a sŵn

Gweithredwch bob cwch gyda gofal a sylw am ddiogelwch preswylwyr a pharch at bob defnyddiwr môr arall.

Cod Morol Gwynedd
Cod Morol Ynys Môn
Cod Morol Conwy
Cod Morol Ceredigion

Cod Ymddygiad Afon Menai


Cysylltwch â’r Swyddog ACA am gopïau caled.

Côd Cadwraeth ar gyfer Genweirwyr Môr

I lawrlwytho copi o’r côd cadwraeth ar gyfer genweirwyr môr cliciwch yma

01286 679495