Crwydro Arfordir Cymru - Yr Arfordir yn Eich Poced

Ap Crwydro Arfordir Cymru yw’r ap perffaith ar gyfer archwilio arfordir Cymru gyfan sydd ar gael AM DDIM. O’r aber i'r môr, o'r clogwyn i’r traeth, archwiliwch ein harfordir heddiw ac helpwch ei amddiffyn am byth. 

Mae’r ap wedi’i greu gan bartneriaeth o sefydliadau Cymreig, a bydd yn cael ei lansio ar storfeydd apiau yn Ebrill 2022!

 

Mae nodweddion yr ap yn cynnwys:

  • Codau Ymddygiad Morol
  • Cymorth adnabod bywyd gwyllt a ffeithiau diddorol
  • Gwyddoniaeth dinesydd - adroddwch ar y bywyd gwyllt a welsoch!
  • Archeoleg arfordirol yn eich ardal
  • Adnabod ac adrodd ar rywogaethau goresgynnol
  • Cynnwys dwyieithog

  

 

 

P'un ai'n ymweld neu’n byw yn lleol, yn gweithio neu’n chwarae, defnyddiwch Crwydro Arfordir Cymru | Wales Coast Explorer i gynllunio eich taith, mwynhau bywyd gwyllt a'r tirweddau gan ddysgu sut i'w hamddiffyn.

Ewch i https://wildseas.wales/walescoastexplorer am fwy o wybodaeth. 

Mae'r ap wedi'i ddatblygu gan Fforwm Arfordirol Sir Benfro mewn partneriaeth â Phartneriaeth Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru a CNC, gyda chefnogaeth partneriaid ar draws Cymru.

Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth Cymru drwy Ariannu Rhwydwaith AMG.

01286 679495