Cofnodwch bywyd gwyllt

Gall adrodd am y bywyd gwyllt morol y gwelwch wneud cyfraniad mawr at reoli'r ACA. Mae ACA Pen Llŷn a'r Sarnau yn ymestyn dros ardal fawr ac, yn yr un modd â'r amgylchedd morol yn gyffredinol, mae yna lawer o bethau nad ydym yn ei wybod hyd heddiw ynghylch y bywyd morol sy'n trigo yma.  Os ydych chi'n crwydro'r arfordir, ar y môr neu o dan y môr, gallwch helpu i wella'n dealltwriaeth o fywyd gwyllt yr ardal hon drwy roi gwybod i ni am yr hyn ydych chi'n dod ar ei draws.

Anfonwch unrhyw luniau neu adroddiadau difyr atom ar e-bost: info@penllynarsarnau.co.uk

Prosiectau a mentrau eraill y gallwch ddod yn rhan ohonynt yw:

Prosiect Morwellt

Helpwch y Prosiect Morwellt i ddod i ddeall dosbarthiad ac iechyd morwellt yn well drwy rannu gwybodaeth am unrhyw forwellt a welwch ar y map Darganfod Morwellt:   www.seagrassspotter.org/map
Dewch i wybod mwy am y Prosiect Morwellt yn: www.projectseagrass.org.

Prosiect y Maelgwn: Cymru

Mae'r prosiect hwn yn ceisio cael gwell dealltwriaeth a diogelu'r Morgi (Squatina squatina) sydd mewn perygl eithriadol (Critically Endangered) drwy ymgysylltu â physgotwyr, treftadaeth a gwyddorau dinasyddion. Dewch i wybod rhagor am y prosiect a sut allwch chi fod yn rhan yn: www.angelsharknetwork.com/cymru/.

Rhywogaethau Estron Ymledol (INNS)

Mae INNS yn anifeiliaid neu blanhigion sydd wedi'u cyflwyno o rannau o'r byd lle nad ydynt i'w canfod yn naturiol. Mae ganddynt y gallu i ddifrodi'r amgylchedd, yr economi, iechyd a'r ffordd yr ydym yn byw. I helpu i ddeall a lleihau effaith rhywogaethau INNS, gallwch adrodd os byddwch yn gweld unrhyw rai i ysgrifenyddiaeth rhywogaethau anfrodorol y DU: www.nonnativespecies.org Gellir lleihau lledaeniad INNS drwy ddilyn ymgyrchoedd bioddiogelwch megis 'check clean dry' (www.nonnativespecies.org/checkcleandry/).

Yr Helfa Fawr Casys Wyau:

Mae nifer o rywogaethau elasmobranch (siarcod a chathod môr) yn dodwy casys wyau a elwir yn byrsiau môr forwynion. Pan fyddant yn wag, yn aml, byddant yn golchi i'r lan, yn enwedig ar hyd y traethlin. Drwy adnabod ac adrodd am y casys wyau hyn, gallwch helpu'r Shark Trust i gael gwell dealltwriaeth am amrywiaeth, dosbarthiad a phresenoldeb siarcod, a hynny drwy gofnodi casys wyau. Hefyd, gellir cofnodi casys wyau a welir o dan y dŵr gan snorclwyr a phlymwyr. Cofnodwch yr hyn a welwch yn: www.recording.sharktrust.org/eggcases/record.

Sea Watch Foundation

Adroddwch os byddwch wedi gweld dolffin, morfil neu lamhidydd er mwyn cynorthwyo i fonitro a chael gwell dealltwriaeth o'r niferoedd a'r lleoliadau: www.seawatchfoundation.org.uk/sightingsform/.

Cadwraeth Morfilod a Dolffiniaid (WDC)

Ydych chi eisiau helpu i ni gael gwell dealltwriaeth o rywogaethau morfilaidd (dolffiniaid a morfilod) ar hyd yr arfordir? Cofrestrwch fel gwirfoddolwr i WDC drwy fynychu diwrnod hyfforddiant gwylio'r traethlin WDC lle gallwch yna gynnal digwyddiadau gwylio'r traethlin o safle lleol. Ewch i wefan WDC (www.wdcs.org/national_regions/scotland/shorewatch/contact.php) i ganfod mwy am wirfoddoli ac adrodd am yr hyn a welwch, neu cysylltwch dros e-bost: shorewatch@whales.org.

UK Cetacean Strandings Investigation Programme (CSIP)

Os ddewch chi ar draws anifail morol marw ar hyd yr arfordir, cysylltwch â CSIP i adrodd i'r tîm 'strandings'. Yn ddibynnol ar y lleoliad a'r cyflwr, mae'r tîm hefyd yn adfer yr anifail er mwyn cynnal archwiliad post-mortem, fel bod modd i ni sefydlu achos y farwolaeth. Adroddwch unrhyw anifail sydd wedi mynd yn sownd drwy ffonio 0800 652 0333. Am ragor o wybodaeth, ewch i'r wefan: www.ukstrandings.org/how-to-identify-a-stranding/.

British Divers Marine Life Rescue

O ran unrhyw anifail sydd wedi mynd yn sownd ac sy'n dal yn fyw, gallwch gysylltu â'r British Divers Marine Life Rescue, sy'n elusen sy'n rhoi cymorth i unrhyw anifail dyfrol (morwrol a dŵr croyw) sydd angen cymorth. I adrodd am unrhyw anifail sydd wedi mynd yn sownd ac sy'n dal yn fyw, cysylltwch gan ddefnyddio'r llinell ffôn 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos: 01825 765546 neu cyflwynwch adroddiad drwy wneud cais cynnwys ar-lein: www.bdmlr.org.uk/contact.

British Trust for Ornithology (BTO) - yr ap BirdTrack

Ydych chi'n mwynhau gwylio adar ac yn dymuno adrodd am y rhywogaethau cyffrous yr ydych wedi'u gweld er mwyn ein helpu i gasglu data pwysig ar rywogaethau adar ledled Prydain ac Iwerddon? Cofnodwch yr hyn a welwch gan ddefnyddio ap Birdtrack y BTO ar Android neu'r iPhone. Am ragor o wybodaeth ar y BTO a BirdTrack, ewch i: www.bto.org/our-science/projects/birdtrack/taking-part/birdtrack-apps.

Gwasanaeth Gwybodaeth Amgylcheddol Gogledd Cymru (COFNOD)

Mae cofnodi bywyd gwyllt yn bwysig er mwyn casglu data pwysig ar gyfer nifer o rywogaethau. Mae COFNOD yn ceisio creu cronfa ddata ganolog ar gyfer nifer o rywogaethau a phrosiectau ledled Gogledd Cymru. I gyflwyno eich cofnodion rhywogaethau, ewch i: www.cofnod.org.uk/Recording.

01286 679495