Nodweddion cadwraeth

Mae’r term nodwedd gadwraeth yn cyfeirio at gynefin neu rywogaeth benodol, a restrir yn y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, y mae’r ACA wedi cael ei dewis ar eu cyfer. Mae gan ACA Pen Llŷn a’r Sarnau ddeuddeg nodwedd gadwraeth. Cynefinoedd yw naw o’r rhain, a rhywogaethau yw’r tair nodwedd arall.

Ystyrir ACA Pen Llŷn a’r Sarnau yn un o’r ardaloedd gorau yn y DU ar gyfer yr isod, o ran y cynefinoedd a’r rhywogaethau cymwys hyn. 

  • Riffiau
  • Cilfachau a baeau mawr bas
  • Banciau tywod sydd wedi’u gorchuddio rhywfaint â dŵr môr bob amser
  • Aberoedd
  • Lagynau arfordirol

Gan gefnogi presenoldeb allweddol yr hyn a ganlyn: 

  • Dolydd Heli’r Iwerydd (Glauco-Puccinellietalia maritimae)
  • Salicornia a phlanhigion unflwydd eraill sy’n sefydlu ar laid a thywod
  • Traethellau llaid a thywod nad ydynt yn cael eu gorchuddio â dŵr môr ar adeg y trai
  • Ogofâu môr sydd dan y dŵr neu yn rhannol dan y dŵr
  • Halichoerus grypus – morlo llwyd
  • Lutra lutra – dyfrgi
  • Tursiops truncatus – dolffin trwynbwl.

Mae’n bosib cael gwybodaeth am y rhywogaethau a’r cynefinoedd uchod trwy ddefnyddio’r linciau uchod. Am fwy o wybodaeth ac i gael gweld y cyfeiriadau a ddefnyddiwyd edrychwch ar Cyhoeddiadau’r ACA.

Nodweddion cadwraeth

01286 679495