Y Dyfrgi – Lutra lutra

Ni wyddys faint o ddyfrgwn sydd yn yr ACA ond ceir tystiolaeth sy’n dangos fod dyfrgwn yn defnyddio llecynnau o’r arfordir ar draws y cyfan o’r safle. Dengys gwybodaeth o arolygon bod dyfrgwn yng nghyffiniau aberoedd yr ACA gydag arwyddion eu bod yn defnyddio aberoedd Glaslyn/Dwyryd a Dyfi yn ogystal ag arwyddion ohonynt (e.e. eu baw) wrth ymyl aber Mawddach ac mewn ceuffyrdd mwyngloddiau ar hyd yr aber. Yn sgil gwybodaeth o arolygon, achosion o weld y dyfrgwn yn fyw a gweld eu cyrff ar y ffyrdd, awgrymir bod afon Soch, Rhydhir, Erch, Dwyfor, Artro a Dysynni bellach yn cael eu defnyddio gan ddyfrgwn. Ceir tystiolaeth hefyd bod dyfrgwn yn defnyddio amrediad y llanw, er enghraifft gwelir arwyddion o’r dyfrgwn yn aml yn Broadwater ar afon Dysynni. Er y gellid credu eu bod i’w gweld fwyaf  mewn aberoedd ac yn eu cyffiniau, yn ôl astudiaeth o Ben Llŷn yn 2002, gwelwyd arwyddion o ddyfrgwn o fewn 1 cilomedr i’r traeth mewn wyth allan o’r deg safle a arolygwyd. 

Yn yr ACA mae yna fannau bwydo posib pwysig i ddyfrgwn. Gall dyfrgwn arfordirol hela cyn belled â 100m o’r traeth mewn dŵr dros 10m o ddyfnder ond bwydir gan amlaf yn llawer nes at y lan mewn dŵr sy’n llai na 3m o ddyfnder. Hoff gynefin yr ysglyfaeth sy’n penderfynu lle bydd y prif fannau hela gan mwyaf. Dangosodd astudiaethau yn yr Alban ar y mathau o ysglyfaeth a gafwyd bod pysgod yn rhan fawr o’r deiet gyda gwahanol rywogaethau’n cael eu bwyta (megis gweflogyn, brithyll mair, llyffant môr, gloÿn y môr, eurben, gwrachen, sliwen a silodyn y môr). Bwytir hefyd grancod a draenogod y môr ond nid cymaint. Mae’n debygol bod y dyfrgwn yn medru cymryd mantais o’r toreth o fwyd sydd ar gael bob tymor. Mae hefyd yn debygol nad yw dyfrgwn yn llwyr ddibynnol ar yr arfordir am fwyd a’u bod hefyd yn bwydo mewn afonydd cyfagos.

Gan ddibynnu lle maent yn byw, mae rhai dyfrgwn yn greaduriaid y nos; eraill yn greaduriaid y dydd, yn fwy na thebyg oherwydd aflonyddwch ac erledigaeth. Pan nad yw’r dyfrgwn yn mynd o gwmpas eu pethau efallai y byddant yn cysgu mewn gwahanol fannau gorffwys a adwaenir fel ffau neu wâl. Gall y rhain fod yn dyllau yn y ddaear, dan wreiddiau coed, dan domenni o greigiau, prysgwydd trwchus neu mewn mannau eithaf agored. Gwyddys bod dyfrgwn yn magu mewn mannau penodol yn yr ACA ond, ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod faint ohonynt sy’n magu yn yr ACA na lle maent yn gorffwyso oherwydd eu natur gyfrinachol ac oherwydd nad oes gwaith arolygu ar yr arfordir ar hyn o bryd. Er hynny, yn yr ACA mae nifer o gynefinoedd posib da i’r dyfrgwn fyw ynddynt a magu ynddynt. Mae digonedd o fwyd i’w gael  mewn afonydd a nentydd ar gyfer dyfrgwn sy’n defnyddio’r arfordir o amgylch yr ACA ac mae’n hynod debygol bod dyfrgwn yn mynd o un cwrs dŵr i’r llall ar hyd yr arfordir. 

Mae dyfrgwn y DU yn dal i ddod dros y gostyngiad sylweddol a gafwyd yn ystod chwe degau a saith degau’r ganrif ddiwethaf yn sgil cael eu gwenwyno gan y plaladdwyr organochlorin - gwaethygwyd hyn gan hela a cholli cynefin. Mae dyfrgwn yn cymryd drosodd safleoedd morol unwaith eto ond yn gwneud hyn yn arafach na chymryd drosodd afonydd. Mae’r ffaith bod dyfrgwn yn yr ACA yn rheolaidd yn gwneud hwn yn safle pwysig ar gyfer gwarchod y rhywogaeth hon.
 

01286 679495