Cilfachau a baeau mawr bas

Fel arfer caiff cilfachau a baeau mawr bas eu diffinio fel bylchau mawr o’r arfordir lle cyfyngir fel arfer ar ddylanwad dŵr croyw. Fel arfer ceir mwy o gysgod yno rhag tonnau nac ar yr arfordir agored ac maent yn eithaf bas, fel arfer yn llai na 30m o ddyfnder ar gyfartaledd.

Y gilfach a adwaenir fel Bae Tremadog ym mhen gogleddol Bae Aberteifi yw cilfach a bae mawr bas Pen Llŷn a’r Sarnau. Cilfach eithaf bas yw Bae Tremadog gyda dyfnder o lai nag 20m ar gyfartaledd. Mae’n gilfach anarferol hefyd oherwydd natur ac amrywiaeth gwely’r môr yno, y cynefinoedd arfordirol a’r bywyd gwyllt yn ogystal ag oherwydd rhyw gymaint o’i nodweddion ffisegol. 

Gwaddod tywodlyd neu gymysg gyda mannau creigiog mewn ambell fan yw’r rhan fwyaf o arfordir Bae Tremadog. Dan y dŵr ei hun, ar wely’r môr ceir, gan mwyaf, wahanol fathau o waddod gyda llecynnau o riffiau creigiog yn ymledu ar draws rhan o’r bae ac o gwmpas Ynysoedd Tudwal. Mae gwaddodion mwy graeanog yn dueddol yng ngogledd-orllewin y bae, llecynnau o laid a thywod lleidiog yn y canol a’r gorllewin a mannau eraill lle ceir, gan mwyaf, waddod tywodlyd mân a chwrs. Yn gyffredinol yn y bae, nid yw’r gwaddodion ym mhob man ond, yn hytrach, yma ac acw ac yn amrywiol (llaid, tywod a graean) gan gynnwys cerrig mân a llecynnau o glogfeini a choblau yn ogystal â riff creigwely. 

Mae Bae Tremadog yn cynnal amrywiaeth helaeth o fywyd morol gyda rhyw gymaint ohono yn hynod doreithiog ac anarferol. Ar hyd glan y môr mae mannau o waddod cymysg (tywod, graean, coblau a chlogfeini) yn cynnal gwelyau helaeth o wymon, riffiau llynghyren ddiliau (wedi’u creu gan y llynghyren Sabellaria alveolata sy’n byw yno) a phyllau trai. Mewn gwrthgyferbyniad, mae tywod lleidiog a graean mewn mannau eraill yn cynnal cymuned anarferol o gregyn carped a chlai lle mae pidogau (pysgod cregyn anarferol a all dyllu i graig meddal, clai a mawn) wedi cymryd drosodd. Dan y dŵr, yn y cynefinoedd gwaddod mae cartref llu o wahanol anifeiliaid, gyda nifer yn cael eu hawlio gan rywogaethau tyrchu (molysgiaid, llyngyr, cramenogion bychain, ecinodermiaid) yn ogystal ag anifeiliaid a phlanhigion sy’n byw ar wyneb gwely’r môr. Mae nifer ac amrywiaeth rhywogaethau, yn ogystal a thoreth o un math penodol yn dibynnu ar fath y gwaddod. Mae rhywfaint o’r gwaddod yn cynnal 80 o rywogaethau – syfrdanol, ac oddeutu 1500 o un math penodol mewn man sydd, yn fras, yn faint darn papur A4. Hyd yn hyn, dengys data arolwg bod nifer uchaf y  gwahanol rywogaethau yng ngogledd-orllewin y bae, gyda’r toreth uchaf yn y gogledd-ddwyrain.

Mae gwahanol fywydau gwyllt y bae, yn enwedig felly y rhai hynny sydd yn y gwaddod, yn adnodd bwyd hynod gynhyrchiol a phwysig i rywogaethau eraill. Mae rhannau o Fae Tremadog yn feithrinfa ar gyfer pysgod ifainc a chredir hefyd eu bod yn gynefin sy’n feithrinfa bwysig i’r cimwch.

 

01286 679495