Ogofâu sydd dan y môr ac yn rhannol dan y môr

Crëir ogofâu môr pan fo daeareg penodol ardal yn caniatáu i’r broses hindreulio ac erydu deunyddiau greu darnau o graig sy’n ymestyn drosodd, holltau, ogofâu a thwnneli sy’n cynnig amgylchiadau hynod arbenigol i blanhigion ac anifeiliaid y môr.

Mae gan y DU yr ogofâu môr mwyaf amrywiol a helaeth ar Arfordir Iwerydd Ewrop . 

Yn yr ACA, mae yna ogofâu môr o amgylch Pen Llŷn, yn cynnwys Ynysoedd Tudwal a hefyd ar hyd arfordir Meirionnydd i’r gogledd o Donfannau ac arfordir Ceredigion i’r gogledd o Glarach. Ceir amrywiaeth eang o fathau o ogofâu gyda gwahanol forffoleg sy’n cael eu taro gan donnau, ffrydiau llanw a sgwrfa o dywod yn y dŵr a cherrig/creigiau ar loriau’r ogofâu. Mae daeareg yr ACA yn gymhleth ac mae’r gwahanol fathau o greigiau a nodweddion daearyddol eraill megis plygion, holltau a ffawtiau  wedi bod yn sail i greu ogofâu môr yn y safle a sicrhau amrywiaeth ohonynt. 

Mae cymunedau’r ogofâu môr yn amrywio o fod yn rhai gwasgarog wedi’u sgwrio a nodweddir gan gen, gwymon coch (megis y gwymon sy’n rhwymo twyni Audouinella purpurea) a molysgiaid yn pori ar ffilmiau biotig  (e.e. ym Mhorth Towyn, Trwyn Cilan, Craig Ddu, Rhoslefain, a Chlarach) i rai sydd yn gyfoeth o wymon, sbyngau, anthosoaid (anemonïau a chreaduriaid o’r un teulu) a chwistrelli môr (e.e. ym Mhorth Llanllawen i’r gogledd ddwyrain o Swnt Enlli, Ogof Deuddrws yn Aberdaron ac Ynys Tudwal Fach). 
geni

Mewn ogofâu sydd â rhannau rhynglanwol a rhai islanwol sydd yn wastadol dan ddŵr (e.e. Ynysoedd Tudwal) a’r rhai hynny sy’n llwyr islanwol (e.e. twnnel ym Mhen-y-Cil), yr hyn sydd yno yw cyfoeth o sbyngau, hydroidau a chwistrelli môr wedi’u cludo gan y llanw, cymunedau gwasgarog wedi’u sgwrio o diwblyngyr calchaidd a chymunedau sy’n nodweddiadol o rigolau ymchwydd sy’n cael eu taro gan ruthr cryf a ffyrnig o ddŵr.

Yn ogofâu mwyaf yr ardal (y rhai hynny a welwyd ger Porth y Neigwl, Ynysoedd Tudwal a Phen-y-Cil) mae graddfeydd tri dimensiwn – yn fertigol o rynglanwol i islanwol a llorweddol o fynedfeydd heulog i gefn ogofâu sydd yn y cysgod ac sydd  yn wastadol dywyll. At hyn, mae graddfeydd o sgwrfa, symudiadau dŵr a math y creigiau yn dylanwadu ar osodiad  y gwahanol fywyd gwyllt yn yr ogofâu. Oherwydd bod gan yr ogofâu hyn gyfoeth amrywiol o isgynefinoedd a chymunedau maent yn tueddu i fod yn rhai sydd â’r cyfoeth mwyaf o rywogaethau. Mae rhywogaethau’n amrywio o fod yn gytrefwyr undydd a gwydn megis tiwblyngyr calchaidd i hydroidau a chwistrelli môr sy’n bwydo drwy hidl mewn tywyrch trwchus a chyrelau cwpanog a sbyngau hirhoedlog.

Mae ogofâu môr yr ACA hefyd yn gartref i nifer o rywogaethau y credir sy’n brin, yn brin yng nghyd-destun y DU neu lle y ceir toreth ohonynt. Mae’r rhain yn cynnwys tair rhywogaeth o sbwng (Stelletta grubii, Stryphnus ponderosus, Thymosia guernei), anemoni (Epizoanthus couchii), cwrel cwpanog (Caryophyllia inornata), molysg (Otina ovata), chwistrell fôr (Polysyncraton lacazei) a gwymon coch (Schmitzia hiscockiana).

Mae’r ‘traethau’ graean neu greigiog sy’n ffurfio yng nghefn yr ogofâu môr yn bwysig yn yr ACA hon fel mannau i forloi ymlacio a geni.

 

01286 679495