𝐂𝐢𝐦𝐰𝐜𝐡 𝐀𝐦𝐞𝐫𝐢𝐜𝐚𝐧𝐚𝐢𝐝𝐝 - 𝐑𝐡𝐲𝐰𝐨𝐠𝐚𝐞𝐭𝐡 𝐄𝐬𝐭𝐫𝐨𝐧 𝐘𝐦𝐥𝐞𝐝𝐨𝐥

Mae Rhywogaethau Estron Ymledol (Invasive Non-Native Species - INNS) yn fygythiad i fioamrywiaeth fyd-eang ac maent yn gallu cael cryn effaith negyddol yn gymdeithasol ac yn economaidd gan effeithio ar weithgareddau megis pysgota, hamddena, llongau ac acwafeithrin.

Un rhywogaeth i edrych allan am yw'r cimwch Americanaidd. Mae’n debyg i’r cimwch Ewropeaidd cynhenid ond mae’n fwy, hyd at 64cm o hyd, ac yn pwyso tua 2kg.

Mae tystiolaeth yn dangos gall y cimwch Americanaidd gyflwyno clefydau a all beri niwed i rywogaethau cynhenid yn ogystal â bygwth ein cimwch Ewropeaidd ni drwy gystadlu am fwyd a mannau cysgodol.

Am rhagor o wybodaeth, neu os credwch eich bod wedi gweld y rhywogaeth yma, rhowch wybod i ni - byddwn yn falch iawn clywed gennych.

📧 bioddiogelwchplas@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

📷 Crown ©

 

01286 679495