𝐂𝐫𝐚𝐧𝐜 𝐌𝐞𝐮𝐝𝐰𝐲 (𝐇𝐞𝐫𝐦𝐢𝐭 𝐂𝐫𝐚𝐛)

Creadur cyffredin iawn sydd i’w gweld ar draethau tywodlyd cysgodol ac mewn pyllau caregog yn Ardal Gadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau yw’r cranc meudwy.

Mae’n anifail gyda chorff meddal, ac er mwyn amddiffyn ei hyn mae’n ymgartrefu mewn cragen fôr gwag sydd yn rhoi lloches a chysgod iddo. Mae’n cludo’r gragen ar ei gefn i bob man mae’n mynd.

Mae crancod meudwy fel arfer i'w gweld gyda'u llygaid, eu crafangau a'u coesau yn ymwthio allan o’i cregyn. Fodd bynnag, byddant yn cilio a diflannu’n gyfan gwbl i fewn i’r gragen pan fyddant dan fygythiad.

Bob hyn a hyn, wrth i’r creadur dyfu, bydd yn rhaid iddo ddod o hyd i gragen newydd, gan gyfnewid ei hen gragen am un sydd yn fwy o faint. Yn aml fodd bynnag, mae’n wynebu cystadleuaeth brwd gan grancod meudwy eraill sydd hefyd yn chwilio am gragen newydd addas.

Mewn ardal lle mae cregyn gwag yn brin a’r galw yn uchel, gall hyd yn oed ciwiau o grancod meudwy ffurfio o dan donnau’r môr er mwyn gallu trio cragen newydd allan i weld ydi hi’n yn ffitio’n dda.

Yn aml maent yn byw mewn grwpiau o 100 a mwy, gan gysgu wedi’u pentyrru gyda’u gilydd - ac er bod ei enw yn awgrymu fel arall, creadur cymdeithasol iawn yw’r cranc meudwy!

📷 Paul Kay ©

01286 679495