Dyfrgwn

 Mae dyfrgwn yn un o famaliaid mwyaf y DU, sy'n perthyn i'r un teulu â moch daear a gwencïod. Er eu bod yn aml yn hela mewn dŵr hallt, mae'n rhaid i'w tiriogaethau helaeth gynnwys rhywfaint o ddŵr croyw, a ddefnyddir ganddynt i ymolchi'n ddyddiol er mwyn i'w ffwr barhau i ddal dŵr. Anaml y ceir cipolwg arnynt, ond mae eu niferoedd wedi adfer yn sylweddol dros y ddegawd diwethaf, ac maent bellach i'w canfod ym mhob sir yn y DU. 

[Lawrlwythwch y pwnc llawn yma]

FFAITH

Mae dyfrgwn yn cysgu ac yn magu eu teulu mewn gwâl yn y ddaear. Y dyfrgwn eu hunain sy'n tyllu'r rhain, ac yn aml byddant yn defnyddio hen dyllau cwningod neu dyllau o dan goed fel man cychwyn.

 

Gweithgaredd: Dyddiadur Dyfan y dyfrgi

Gweithgaredd ystafell ddosbarth sy'n canolbwyntio ar ddyddiadur Ollie, y dyfrgi. Mae'n cyfuno darllen a deall gyda mathemateg i greu siartiau bar i ddangos faint mae Ollie wedi'i fwyta a pha mor bell y mae wedi teithio.

[Lawrlwythwch y weithgaredd yma]

Gweithgaredd: Crëwch fi

Gofynnir i'r plant ganolbwyntio ar sut mae pob rhan o'r dyfrgi wedi addasu'n benodol i'w fywyd yn y dŵr, ac mae'n fan cychwyn da i siarad am addasu yn gyffredinol. 

[Lawrlwythwch y weithgaredd yma]

01286 679495