Rhywogaethau ymledol

Rhywogaethau ymledol anfrodorol yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio rhywogaeth mewn lleoliad lle nad oedd yn bodoli'n hanesyddol, ac sy'n achosi problemau i fywyd gwyllt neu'r amgylchedd brodorol.  Cyflwynir rhywogaethau anfrodorol i'r DU mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft, yn aml bydd rhywogaethau o blanhigion yn cael eu cyflwyno i erddi, ac wedyn yn dianc oddi yno i'r gwyllt. Ar hyn o bryd, credir bod 193 o rywogaethau anfrodorol goresgynnol yn y DU. 

[Lawrlwythwch y pwnc llawn yma]

FFAITH

Dros y 500 mlynedd diwethaf, mae 135 rhywogaeth o adar wedi diflannu, a chanfuwyd bod rhywogaethau ymledol anfrodorol wedi cyfrannu at 68 o'r achosion hyn.

 

Gweithgaredd:  Cyflymder afon

Sesiwn gwaith maes yw hwn, lle mae'r plant yn casglu data sy'n eu galluogi i gyfrifo cyflymder afon, ehangu hyn i bellteroedd, a dangos pa mor hawdd y gall rhywogaethau estron  ledaenu.

[Lawrlwythwch y weithgaredd yma]

Gweithgaredd: Arolwg rhywogaethau

Gweithgaredd gwaith maes i gynnal arolwg o'r rhywogaethau goresgynnol mwyaf cyffredin mewn ardal.  Gellir gwneud gwaith ar y cyd fel dosbarth cyfan neu ei roi i'r disgyblion gwblhau yn eu hamser eu hunain. 

[Lawrlwythwch y weithgaredd yma]

Gweithgaredd: Gêm baru

Gweithgaredd grŵp i ddisgyblion weithio gyda'i gilydd i baru'r rhywogaethau ymledol anfrodorol gyda'r effeithiau a'u lleoliadau gwreiddiol.

[Lawrlwythwch y weithgaredd yma]

Gweithgaredd: Pa un ydw i?

Gweithgaredd i ddefnyddio'r nodweddion adnabod allweddol, i ganfod pa rywogaeth sy'n cael ei disgrifio. 

[Lawrlwythwch y weithgaredd yma]

 

01286 679495