Colli cynefin

Dywedir bod cynefin wedi'i golli pan nad yw'r amgylchiadau amgylcheddol bellach yn ffafriol ar gyfer y rhywogaeth sydd wedi addasu i fyw yno.  Mae colli cynefinoedd wedi'i adnabod fel un o'r prif fygythiadau i fioamrywiaeth byd-eang, ac er bod sawl rheswm pam ei fod yn digwydd, yr un yw'r canlyniad. Mae poblogaethau yn cael eu rhannu, mae gweddill yr adnoddau yn cael eu rhoi dan bwysau a bydd rhywogaethau yn wynebu llawer mwy o gystadleuaeth, sydd yn y pendraw yn arwain at golli rhywogaethau.

[Lawrlwythwch y pwnc llawn yma]

FFAITH

Mae colli cynefinoedd wedi'i adnabod fel y prif fygythiad i 85% o'r holl rywogaethau sydd mewn perygl ac o dan fygythiad.

Gweithgaredd: Gêm lle diogel

Gêm fywiog sy'n dangos pa mor fregus yw rhywogaethau os bydd eu cynefinoedd yn cael eu dinistrio. 

[Lawrlwythwch y weithgaredd yma]

Gweithgaredd: Paru'r cynefinoedd

Gweithgaredd ystafell ddosbarth lle mae'r plant yn paru'r cynefin gyda rhai o'r rhywogaethau sy'n byw yno.

[Lawrlwythwch y weithgaredd yma]

Gweithgaredd: Coridorau

Gweithgaredd ystafell ddosbarth sy'n dangos pwysigrwydd y cysylltiadau rhwng cynefinoedd a gallu'r rhywogaethau i deithio rhyngddynt, ac i feddwl am atebion o fewn ein hamgylchedd trefol.

[Lawrlwythwch y weithgaredd yma]

01286 679495