Traethlin

Wrth i’r llanw droi, mae llinellau yn cael eu ffurfio ar hyd y draethlin, wedi’u gwneud o’r pethau sy’n cael eu gadael ar ôl gan y môr ar bwynt uchaf y llanw. Maent yn lleoedd gwych i chwilio am gliwiau am y creaduriaid sy'n byw yn y môr, ac i weld effaith pobl ar ein moroedd.  Yn gyffredinol, maent yn hawdd i'w gweld fel llinell o wymon ar draws y traeth, ac fe arfer byddant yn cynnwys eitemau naturiol a rhai wedi'u gwneud gan bobl.

[Lawrlwythwch y pwnc llawn yma]

FFAITH

Mae'r chwannen draeth yn rywogaeth cramennog. Maent yn mesur oddeutu 2cm o hyd, ac yn ystod yn dydd maent wedi'u claddu yn y tywod neu wedi'u cuddio ynghanol y malurion ar hyd llinell y draethlin. Maent yn treulio'r gaeaf mewn cyflwr segur, wedi'u claddu mewn tywod llaith hyd at ddyfnder o 50cm, uwchben llinell y llanw uchel. 

Gweithgaredd: Helfa traethlin

Helfa am rai o'r eitemau naturiol y gellir eu canfod ar ein traethau. Ar ôl canfod yr eitemau, mae'r gweithgaredd yn eich ysgogi i drafod pob rhywogaeth a sut y maent wedi addasu i fyw yn y lleoliad hwn.

[Lawrlwythwch y weithgaredd yma]

Gweithgaredd: Chwilio'r Môr

Gweithgaredd chwilair ar gyfer yr ystafell ddosbarth yn cynnwys llawer o rywogaethau glan môr.

[Lawrlwythwch y weithgaredd yma]

Gweithgaredd: Haicw Cudd

Ymarfer ysgrifennu creadigol sy'n defnyddio strwythur Haicw i roi cyfle i blant greu cliwiau i rywogaethau morol i'w cyd-ddisgyblion geisio dyfalu'r atebion. 

[Lawrlwythwch y weithgaredd yma]

01286 679495