Cefndir
Mae’r moroedd o amgylch Cymru yn llawn creaduriaid lliwgar a chyffrous. Maent mor bwysig, mae rhannau helaeth o arfordir Cymru wedi’u dynodi’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau). Un o’r ACAau hyn yw Pen Llŷn a’r Sarnau. Ond beth mae hyn i gyd yn ei olygu? Beth yw’r ACAau? Beth yw ACA Pen Llŷn a’r Sarnau, ac yn lle mae o? Beth yw’r pethau lliwgar a chyffrous sy’n byw yma ac yn gwneud yr ardal mor arbennig? Onid yw’r moroedd o amgylch Cymru yn oer ac yn llwm? Cliciwch ar y cysylltau uchod, a phlymiwch i mewn i ddarganfod mwy!
![](/sites/default/files/styles/thumbnail_two_column/public/2020-11/Jake_Davies_no_WM_Porth_Ysgaden_Snakelocks_Anemone.jpg?itok=8XFJ7Qi6)