Nodweddion cadwraeth
Mae’r term nodwedd gadwraeth yn cyfeirio at gynefin neu rywogaeth benodol, a restrir yn y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, y mae’r ACA wedi cael ei dewis ar eu cyfer. Mae gan ACA Pen Llŷn a’r Sarnau ddeuddeg nodwedd gadwraeth. Cynefinoedd yw naw o’r rhain, a rhywogaethau yw’r tair nodwedd arall.
Ystyrir ACA Pen Llŷn a’r Sarnau yn un o’r ardaloedd gorau yn y DU ar gyfer yr isod, o ran y cynefinoedd a’r rhywogaethau cymwys hyn.
- Riffiau
- Cilfachau a baeau mawr bas
- Banciau tywod sydd wedi’u gorchuddio rhywfaint â dŵr môr bob amser
- Aberoedd
- Lagynau arfordirol
Gan gefnogi presenoldeb allweddol yr hyn a ganlyn:
- Dolydd Heli’r Iwerydd (Glauco-Puccinellietalia maritimae)
- Salicornia a phlanhigion unflwydd eraill sy’n sefydlu ar laid a thywod
- Traethellau llaid a thywod nad ydynt yn cael eu gorchuddio â dŵr môr ar adeg y trai
- Ogofâu môr sydd dan y dŵr neu yn rhannol dan y dŵr
- Halichoerus grypus – morlo llwyd
- Lutra lutra – dyfrgi
- Tursiops truncatus – dolffin trwynbwl.
Mae’n bosib cael gwybodaeth am y rhywogaethau a’r cynefinoedd uchod trwy ddefnyddio’r linciau isod. Am fwy o wybodaeth ac i gael gweld y cyfeiriadau a ddefnyddiwyd edrychwch ar Cyhoeddiadau’r ACA.
Cynefinoedd
Fel arfer caiff cilfachau a baeau mawr bas eu diffinio fel bylchau mawr o’r arfordir lle cyfyngir fel arfer ar ddylanwad dŵr croyw. Fel arfer ceir mwy o gysgod yno rhag tonnau nac ar yr arfordir agored ac maent yn eithaf bas, fel arfer yn llai na 30m o ddyfnder ar gyfartaledd.
Mae gwastadeddau llaid a tywod rhynglanwol yn ardaloedd o waddodion sydd dan ddŵr yn ystod llanw uchel ac yn y golwg yn ystod llanw isel.
Mae riffiau Pen Llŷn a’r Sarnau yn hynod amrywiol ac yn cynnal amrywiaeth eang iawn o anifeiliaid a phlanhigion y môr gan adlewyrchu’r ystod eang o ffactorau ffisiograffeg o amgylch y safle megis tonnau, ffrydiau llanw, amrywiaeth ym math gwely’r môr, sgwriad y llanw, pa mor glir yw’r dŵr ac amrywiaeth yn nyfnder y dŵr.
Ehangder o ddŵr arfordirol bas yw lagynau ac ynddynt wahanol gyfaint o halen a dŵr - dŵr sydd wedi’i wahanu oddi wrth y môr, un ai’n llwyr neu’n rhannol gan fanciau tywod, graean neu, yn llai aml, greigiau.
Subtidal sandbanks are characterised by sandy sediments that are permanently covered by shallow seawater.
Crëir ogofâu môr pan fo daeareg penodol ardal yn caniatáu i’r broses hindreulio ac erydu deunyddiau greu darnau o graig sy’n ymestyn drosodd, holltau, ogofâu a thwnneli sy’n cynnig amgylchiadau hynod arbenigol i blanhigion ac anifeiliaid y môr.
Newydd
Cymuned o blanhigion morfa heli arloesol sy’n cymryd drosodd traethellau llaid a thywod rhynglanwol yw Salicornia ac unflwyddiaid eraill, a hynny mewn mannau sy’n cael eu gwarchod rhag tonnau cryf.
Mae dolydd heli yr Iwerydd yn fath o gynefin sy’n cwmpasu amrywiaeth o wahanol gymunedau morfeydd heli.
Rhywogaethau
Nodweddir banciau tywod islanwol gan waddodion tywodlyd sydd wedi’u gorchuddio drwy’r amser gan ddŵr môr bas.
Mae’r dolffin trwynbwl yn famal morol sydd i’w weld ledled y byd yn y moroedd trofannol a thymherus.
Mae’r morloi llwydion Halichoerus grypus ymhlith y morloi prinaf yn y byd – mae oddeutu 40% ohonynt yn byw yn y DU ac oddeutu 95% o rai’r UE hefyd yn byw yn y DU