Manteision y dynodiad
Mae amgylchedd morol iach yn hanfodol i'n bywydau bob dydd. Mae'n rhoi ocsigen i ni i'w anadlu, bwyd i'w fwyta ac mae hyd yn oed yn cynorthwyo â'n hiechyd meddwl. Diben ACA Pen Llŷn a'r Sarnau yw cynorthwyo i warchod a gwella'r safle. Gwneir hyn drwy gynnal prosiectau sy'n ymdrin â materion penodol a thrwy godi ymwybyddiaeth ynghylch y bywyd morol gwych sydd gennym ni yma.
Rydym yn dysgu mwy bob dydd am werth y byd tanddaearol hwn, buddion megis cynhyrchu bwyd, gwarchod rhag llifogydd, amddiffyn arfordirol, buddion hamdden, amsugno a storio Carbon (atafaelu Carbon).
Mae'r amgylchedd morol wedi bod yn hanfodol i'n ffordd o fyw am ganrifoedd ac o ganlyniad, mae'n rhan hanfodol o'n diwylliant, ein heconomi, ein gorffennol a'n dyfodol. Mae wedi'i blethu i'n ffordd o fyw.
Mae'r safle hefyd yn cyfrannu at gadwraeth bioamrywiaeth byd-eang gyda chydnabyddiaeth rhyngwladol i bwysigrwydd y safle.
Mae dynodiad yr ACA yn ein cynorthwyo i gynnal a chynyddu'r buddion hynny nawr ac am genedlaethau i ddod.