Awdurdodau Cymwys a Pherthnasol
Awdurdod Cymwys yw unrhyw sefydliad neu unigolyn sydd â rôl statudol yn y DU – mae gan y sefydliadau a’r awdurdodau hyn gyfrifoldeb cyfreithiol i helpu i ddiogelu nodweddion ACA wrth wneud eu gwaith gan gyflawni nodau’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Mae awdurdodau perthnasol yn is-set o awdurdodau cymwys gyda chyfrifoldebau penodol yn yr amgylchedd morol. Mae’r awdurdodau hyn yn cydweithio’n agos fel grŵp o awdurdodau perthnasol ar nifer o ACAau morol, gan gynnwys ACA Pen Llŷn a’r Sarnau.
Dyma’r Awdurdodau Perthnasol ar gyfer ACA Pen Llŷn a’r Sarnau:
- Cyngor Sir Ceredigion
- Cyngor Gwynedd
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cyngor Sir Powys
- Dŵr Hafren Trent
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
- Awdurdod Goleudy’r Drindod
- Dŵr Cymru
Mae’n hynod bwysig fod y sefydliadau hyn yn cydweithio gan fod yr amgylchedd morol yn gyfrifoldeb sy’n cael ei rannu. Mae awdurdodau perthnasol ACA Pen Llŷn a’r Sarnau yn cyfarfod fel gweithgor bob tua chwe mis. Er mwyn cael gweld cylch gorchwyl y grŵp cliciwch yma.