Tîm ACA
Mae'r Swyddog ACA yn gweithio i'r Grŵp Awdurdodau Perthnasol. Rôl y Swyddog ACA yw cydlynu rheolaeth yr ACA. Mae hyn yn cynnwys:
- Datblygu, sicrhau cyllid a rheoli prosiectau i leihau effeithiau ar y safle, gan weithio tuag at gyflwr ffafriol
- Cynhyrchu, adolygu a diweddaru dogfennau rheoli safle
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid
- Codi ymwybyddiaeth
- Gweithio mewn partneriaeth
- Cynrychioli safleoedd ar lefel genedlaethol / rhwydwaith
- Datblygu, sicrhau cyllid a rheoli prosiectau ar lefel genedlaethol
I gael mwy o wybodaeth am yr ACA a'ch amgylchedd morol lleol, cysylltwch â'r Swyddog ACA.
