Beth yw ACA?

Rydym yn colli cynefinoedd bywyd gwyllt ac mae poblogaeth nifer o blanhigion ac anifeiliaid yn gostwng trwy'r byd i gyd. Enghraifft ddiweddar o'r golled hon yw difodiant dolffin yr afon Yangtse. Mae Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau) yn rhan o ymateb Ewrop i fynd i'r afael â'r golled hon. 

Daeth nifer o wledydd o bob cwr o’r byd ynghyd yng Nghynhadledd y Ddaear yn Rio de Janeiro ym 1992 i drafod bioamrywiaeth fyd-eang a’r hyn y gallasant ei wneud i helpu i’w diogelu. Canlyniad pwysig hyn i Ewrop yw dogfen o’r enw’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Nod y Gyfarwyddeb Cynefinoedd yw helpu i ddiogelu amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau ledled yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Cyfarwyddeb Cynefinoedd y Comisiwn Ewropeaidd 1992, yn mynnu bod aelod-wladwriaethau yn cymryd camau amrywiol i helpu i ddiogelu bioamrywiaeth. Mae’r camau hyn yn cynnwys dynodi Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar dir ac yn y môr. Mae pob ACA yn cael ei dynodi ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau penodol, a bydd yn cael ei rheoli mewn modd a fydd yn helpu i ddiogelu’r cynefinoedd a’r rhywogaethau hynny. 

Mae’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd wedi’i throsi i gyfraith y DU fel Rheoliadau Cynefinoedd 1994. Mae’r rheoliadau hyn yn rhoi pwerau a dyletswyddau i gyrff statudol y DU er mwyn iddynt gydymffurfio â nodau’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd Ewropeaidd a gweithredu’r nodau hynny.

Mae ACAau, ynghyd ag AGAau (Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig - sydd wedi’u dosbarthu dan Gyfarwyddeb Adar y Comisiwn Ewropeaidd 1979 ar gyfer cadwraeth adar) yn rhan o rwydwaith o safleoedd a adwaenir fel Natura 2000, sydd ar hyd a lled cyfandir Ewrop. Adwaenir y safleoedd hyn fel Safleoedd Ewropeaidd hefyd, neu Safleoedd Morol Ewropeaidd os mai safleoedd morol ydynt.

 

 

01286 679495