Adnoddau eraill
Mae ACA Pen Llŷn a’r Sarnau yn un o'r nifer o sefydliadau sy'n gweithio er mwyn deall ac amddiffyn ein hamgylchedd lleol, yn ogystal ag addysgu a chyffroi pobl ifanc am y tirweddau anhygoel sydd ar stepen eu drws. Isod mae rhai o adnoddau gwych gan ein sefydliadau rydym yn cydweithio â:
Prosiect Maelgi Cymru:
Mae Prosiect Maelgi: Cymru (PM:C) yn brosiect arloesol a arweinir gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Chymdeithas Sŵolegol Llundain (Zoological Society of London), gyda'r nod o gyd weithio â physgotwyr a chymunedau arfordirol er mwyn ddiogelu Maelgwn yng Nghymru, gan ddefnyddio treftadaeth, addysg ac ymchwil. Darganfyddwch fwy yn https://angelsharknetwork.com/cymru/.
Dyluniwyd yr eLyfr Angylion Cymru fel y gallwch ddysgu mwy am y Maelgi prin, sef rhywogaeth mewn perygl ac sydd i’w chael yn nyfroedd Cymru. Gellir hefyd ddysgu am sut mae'r prosiect yn datgelu mwy am y rhywogaeth a'i phwysigrwydd yn nhreftadaeth Cymru.
Mae'r eLyfr yn cefnogi ystod eang o bynciau, sydd yn cyd-fynd â Chwricwlwm Cenedlaethol Cymru 2022, gan ysgogi gwahanol feysydd o fewn y cwricwlwm fel bioleg, daearyddiaeth, hanes a mathemateg. Mae'r iaith a'r lluniau wedi'u teilwra ar gyfer myfyrwyr 7 i 11 oed. Gellir lawr lwytho fersiynau Cymraeg a Saesneg rhad ac am ddim o http://www.angelsharkproject.com/ebook-cymru/.
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt - Gwyllt:
Cangen iau Yr Ymddiriedolaethau Natur yw ‘Gwyllt’, ac mae yno wefan ac e-gylchlythyr sydd yn llawn syniadau gwych a gwyllt, yn ogystal ag awgrymiadau defnyddiol ar sut i wylio natur. Ewch draw i wefan https://www.wildlifewatch.org.uk/ ac os ydych chi'n chwilio am bethau i'w gwneud gartref neu pan ydych allan, mae yna lawer o syniadau i’w lawr lwytho yma https://www.wildlifewatch.org.uk/cy/things-do. Mae popeth yno ar gael yn Gymraeg a Saesneg!!
Pecyn Addysg Project Seagrass
Yn y pecyn addysg yma mae Project Seagrass yn dod â’r cefnfor i’r ystafell ddosbarth, gan ysbrydoli cenhedlaeth newydd o bobl i fwynhau ac ofalu am y cefnfor au gwneud yn fwy ymwybodol o effeithiau eu gweithredoedd a sut i wneud dewisiadau cadarnhaol, cynaliadwy.