Prosiectau Cynllun Bioddiogelwch PLAS Gobaith y prosiect hwn yw datblygu cynllun bioddiogelwch ar gyfer ACA PLAS a llywio cynlluniau bioddiogelwch effeithiol ar gyfer Cymru gyfan. Natur am Byth! Natur am byth! yw prosiect blaenllaw Cymru. Mae'n bartneriaeth rhwng naw elusen amgylcheddol a Chyfoeth Naturiol Cymru a fydd yn gwarchod rhywogaethau dan fygythiad ac yn ailgysylltu'r cyhoedd gyda'u treftadaeth naturiol. Morwellt Achub CefnforProsiect newydd yn edrych ar adfer morwellt yng Ngogledd Cymru! Nid yw safleoedd adfer wedi'u pennu eto, a dyma lle hoffem gael eich cymorth i nodi'r lleoliadau mwyaf priodol ar y cyd. Hoffem yn fawr hefyd ddysgu sut yr hoffech chi ymgysylltu a chymryd rhan yn y prosiect. Prosiect Morwellt Porthdinllaen Nod y prosiect yw datblygu a gweithredu opsiynau rheoli fydd yn gwella cyflwr y morwellt a chaniatáu i ddefnydd presennol y bae barhau. Y nod yw datblygu a gweithredu'r dewisiadau rheoli hyn mewn partneriaeth llawn gyda rhan-ddeiliaid. Gwylio Dolffiniaid Cynllun peilot oedd Gwylio Dolffiniaid gyda’r amcan o fonitro cydymffurfiad gyda Côd Morol Gwynedd i helpu ni wybod lle i gyfeirio’n hymdrechion wrth hyrwyddo’r côd. Prosiect Lagŵn Morfa GwylltEdrychodd y prosiect yma ar y materion oedd yn cael effaith ar lagŵn Morfa Gwyllt a beth oedd angen i ddatrys y problemau hyn. Prosiect Sbwriel CriciethRoedd y prosiect yn anelu i greu ymgyrch hunangynhaliol gyda ffocws ar y gymuned, yn gyrru i gael ateb lleol i’r broblem ysbwriel morol. Tir a MôrPartneriaeth Llŷn ac ACA Pen Llŷn a’r Sarnau sy’n arwain ar brosiect cydweithredol sy’n canolbwyntio ar ddatrys rhai o’r problemau sy’n effeithio ar adnoddau naturiol yn yr ardal ar y Tir a’r Môr sy’n amgylchynu’r Penrhyn Llŷn. O Dan y Môr a’i DonnauRoedd O Dan y Môr a'i Donnau yn brosiect a ariennir gan Interreg IIIA, gan weithio mewn partneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Fingal yn Iwerddon. Nod y prosiect oedd codi ymwybyddiaeth o gadwraeth morol, a rhannu syniadau O'r Mynydd i'r MôrMae prosiect O’r Mynydd i’r Môr yn gweithio ar y cyd gyda phobl leol yr ardal rhwng Afon Dyfi i’r Gogledd ac Afon Rheidiol i’r De ac yn fewndirol hyd nes Llanidloes, gyda’r nod o archwilio cyfleoedd i ddatblygu syniadau ar gyfer rheoli tir a môr yn gydweithredol er mwyn helpu natur a phobl i ffynnu. Prosiect Ecosystemau Morol Llŷn Mae’r prosiect yma yn edrych ar ddulliau gwahanol o reoli'r môr i wella ein dealltwriaeth o'r amgylchedd morol a hyrwyddo adferiad a gwytnwch ecosystemau heb gael effaith andwyol ar bysgotwyr a chymunedau lleol. Cod MorolMae’r prosiect yma wedi creu a gweithredu Cod Morol er mwyn lleihau aflonyddu ar famaliaid morol ac adar.