Tir a Môr

Partneriaeth Llŷn ac ACA Pen Llŷn a’r Sarnau sy’n arwain ar brosiect cydweithredol sy’n canolbwyntio ar ddatrys rhai o’r problemau sy’n effeithio ar adnoddau naturiol yn yr ardal ar y Tir a’r Môr sy’n amgylchynu’r Penrhyn Llŷn.

Nod y prosiect hwn yw cynnal ac ehangu stribyn di-dor o gynefinoedd amrywiol ar hyd ar arfordir sy’n cydredeg â Llwybr Arfordir Cymru. Mae’r prosiect yn datblygu arfer da ym maes rheoli dalgylch afon a rheoli rhywogaethau goresgynnol, gan gynnig buddion economaidd a chymdeithasol sylweddol wrth gyplysu’r gwaith â chynlluniau i wella amaethyddiaeth ac adnoddau cymdeithasol-ddiwylliannol.

Mae’r prosiect hefyd yn treialu model ffermio ‘talu am ganlyniadau’ ar dair fferm sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Y nod yw edrych ar fodel ffermio newydd all gael ei ddilyn mewn ardaloedd eraill yn y dyfodol.

Mae’r ddwy bartneriaeth wedi datblygu dull cydweithredol o weithredu’n lleol, gan ganiatáu i bawb gydweithio i ddatblygu a gweithredu cynlluniau gwaith ymarferol yn gyflym ac yn ddi-dor, ac yn annog pawb yn yr ardal i gydweithio i roi’r prosiect ar waith.

Bydd elfen gryf o ymgysylltu â’r gymuned ehangach drwy gynnal digwyddiadau a mynd i ysgolion lleol yn rhan o’r prosiect.

 

Talu am Ganlyniadau - Llŷn

01286 679495