Croeso i adran Addysg y gwefan

Dyma’r lle i archwilio pecyn addysg Tir a Môr sydd wedi’w ddylunio i gynorthwyo athrawon i ddod ag amgylchedd naturiol Cymru yn fyw i ddysgwyr.

Mae gweithwyr proffesiynol ar draws sector amgylcheddol Cymru wedi cyfuno eu harbenigedd i helpu i greu'r gweithgareddau craff a diddorol hyn, sy'n berthnasol i nifer o agweddau ar y cwricwlwm. Maent wedi'u rhannu'n fras i bynciau yn ymwneud â'r tir, dalgylchoedd afonydd, a'r môr, ac mae'r pecyn yn gymorth i egluro cysyniadau ecolegol cymhleth gan ddefnyddio esiamplau bywyd lleol go iawn.

Mae ACA Pen Llŷn a’r Sarnau yn un o nifer o sefydliadau sy'n gweithio er mwyn deall ac amddiffyn ein hamgylchedd lleol, yn ogystal ag addysgu a chyffroi pobl ifanc am y tirweddau anhygoel sydd ar stepen eu drws. Rydym wedi rhannu adnoddau eraill gan ein partneriaid yma.

01286 679495