Aberoedd
Mae aberoedd wedi’u gwneud o nifer o wahanol fathau o gynefinoedd. Aber yw’r rhan o ddyffryn afon sy’n ymestyn i lawr yr afon o derfyn dŵr lled hallt ac mae’n ddibynnol ar y llanw. Mae gan aberoedd nodweddion yn cynnwys rhyw gymaint o halen o ddŵr croyw yn yr afon i amgylchiadau gynyddol forol tuag at y môr agored, rhyw gymaint o waddod o’r afon a dŵr y môr yn dod i mewn i’r aber. Mewn gwahanol rannau o’r aber ceir gwahanol raddau o gysgod rhag y tonnau a’r llanw gyda thraethellau gwaddod rhynglanwol a sianelau islanwol llawn gwaddod yn aml iawn yn datblygu lle mae’r llif yn isel.
Y tri phrif aber ym Mhen Llŷn a’r Sarnau yw Glaslyn Dwyryd, Mawddach a Dyfi. Mae’r tri hyn wedi’u dosbarthu fel aberoedd bariau sydd â bar gwaddod ar draws eu ceg a’r hyn ydynt yw dyffrynnoedd afonydd sydd wedi lled foddi ac sydd, yn sgil hynny, wedi’u gorlifo. Ym Mhen Llŷn a’r Sarnau y mae’r enghreifftiau gorau o’r math hwn o aber yn y DU.
Mae’r gwahanol gynefinoedd mewn aberoedd yn cynnal amrywiaeth fawr o wahanol fathau o fywyd gwyllt. Yn y gwaddodion rhynglanwol ac islanwol ceir gwahanol fathau o lyngyr, cramenogion a molysgiaid gan ddibynnu ar fath y gwaddod, pa mor hallt ydyw a faint o donnau a llanw ddaw drosto. Lle mae’r cynefin yn greigiog, datblyga fel arfer wymon gwyrdd a brown gyda rhai mathau yn nodweddiadol o’r gwahanol amgylchiadau hallt. Mae cynefinoedd arforol a dŵr croyw yn cynnal eu mathau eu hunain o blanhigion ac anifeiliaid gan addasu o fod yn morfa heli i fod yn ddŵr lled hallt.
Yn ogystal â’r llu o wahanol fywydau gwyllt sy’n byw mewn gwaddod a haenau o graig, mae aberoedd hefyd yn cynnal casgliad o rywogaethau symudol. Gall aberoedd fod yn feithrinfa bwysig i bysgod a bod yn fodd i bysgod sy’n mudo symud o ddŵr môr i ddŵr croyw.