Dolffin trwynbwl – Tursiops truncatus
Mae’r dolffin trwynbwl yn famal morol sydd i’w weld ledled y byd yn y moroedd trofannol a thymherus (oni bai am y rhanbarthau pegynol). Fe’u gwelir yn aml ym moroedd Gogledd yr Iwerydd, Gorllewin Affrica, Môr y Canoldir ac o amgylch dyfroedd y DU (ond prin maent i’w gweld yn ne Môr y Gogledd).
Yn nyfroedd tiriogaethol y DU, ceir dwy brif ardal ble ceir grwpiau o ddolffiniaid trwynbwl fel arfer, ym Mae Ceredigion ac ym Moray Firth. Er nad oes amcangyfrifon ynghylch y nifer cyffredinol o ddolffiniaid, mae astudiaethau’n dangos bod 130 o ddolffiniaid ym Moray Firth, tra amcangyfrifwyd bod rhwng 130 a 350 o ddolffiniaid trwynbwl ym Mae Ceredigion. Nid yw’r naill grŵp na’r llall yn rhai caeedig, a gall dolffiniaid unigol ymuno am gyfnodau o amser o lefydd eraill. Ni wyddys yn union faint o ddolffiniaid trwynbwl sy’n defnyddio ACA Pen Llŷn a’r Sarnau. Rhwng 1989 a 1998, cafwyd adroddiadau bod tua 90 o ddolffiniaid trwynbwl wedi’u gweld ledled yr holl safle, gyda chlystyrau o amgylch ceg aber Dyfi (25 wedi’u gweld), aber Mawddach (12 wedi’u gweld) a Bae Tremadog (wyth wedi’u gweld).
Mae faint o fwyd sydd ar gael o bwysigrwydd mawr, ac mae’r ACA yn cynnwys ardaloedd bwydo posib pwysig ar gyfer dolffiniaid trwynbwl. Maent yn addasu’n rhwydd yn nhermau diet a strategaeth fwydo, gan eu bod yn tueddu i fwyta’n gyffredinol a hynny ar hap. Mae arsylwadau o ddolffiniaid byw a chofnodion traethellau yn dangos eu bod yn bwyta amrediad eang o bysgod, cramenogion a molysgiaid. Mae rhywogaethau y maent yn eu hysglyfaethu yn cynnwys hadog, celogiaid, penfras, cegddu, hyrddyn, llysywod, eogiaid, brithyll, draenogiaid y môr a llymrïaid, ynghyd ag octopws a seffalopodau eraill. Gall bwydo olygu dolffiniaid unigol yn dal bwyd yn annibynnol, neu dyrru gyda’i gilydd gyda physgod wedi’u cau yn erbyn arwyneb y dŵr, y draethlin neu’r rhynglanw.
Gwyddys bod rhai lloeau wedi’u geni ym Mae Ceredigion ac mae rhai newydd-anedig a’r rhai ifanc iawn wedi’u hadrodd ym Mae Ceredigion rhwng mis Ebrill a mis Medi, gan awgrymu patrwm tymhorol i’r genedigaethau. Mae’n debyg y ceir hoffter o ardaloedd bas, mwy cysgodol. Mae’r bondiau cymdeithasol cryfaf rhwng mamau a lloeau ifainc yn ystod y cyfnodau sugno a diddyfnu. Diddyfnir lloeau wedi tua deunaw mis, ond maent yn parhau i gael cyswllt cryf gyda’r fam am dair i chwe blynedd hyd nes y byddant yn gadael i ymuno â grwpiau cymysg o rai ifainc eraill.
Mae dolffiniaid trwynbwl yn ysglyfaethwyr mawr, ble mae difwynwyr yn cronni i fyny’r gadwyn fwyd ac, yn achos organohalidau sy’n cronni mewn meinwe brasterog, fe’u trosglwyddir i’r llo yn llaeth y fenyw. Ar y cyfan, credir bod lefelau difwynwyr ym Mae Ceredigion yn gyffredinol isel, fodd bynnag, darganfuwyd lefelau uchel o rai difwynwyr, yn cynnwys cyfansoddion organoclorin ac arian byw, mewn dolffiniaid trwynbwl oedd yn sownd ym Mae Ceredigion ac ni wyddys beth oedd ffynhonnell y difwynwyr hyn ar hyn o bryd. Ni wyddys sut mae lefelau cyfredol o ddifwynwyr yn effeithio ar y dolffiniaid trwynbwl.
Un ystyriaeth allweddol arall ar gyfer cadw’r dolffin trwynbwl o fewn yr ACA a’r moroedd ehangach, yw gweithgarwch dyn. Gall hyn ddigwydd yn agos iawn at y dolffiniaid, megis aflonyddwch gan gychod pŵer, neu gryn bellter i ffwrdd, er enghraifft drwy ddefnyddio offer sonar tanddwr sydd â’r potensial i gael effaith angheuol ar forfilod. Ceir cynnydd parhaus yn nifer y cychod pŵer o bob maint sy’n gweithredu o fewn yr ACA a Bae Ceredigion yn eu cyfanrwydd, a bydd angen i leihau’r aflonyddwch ar forfilod, yn cynnwys y dolffin trwynbwl, fod yn rhan o ffocws rheolaeth y safle. Yn debyg i’r morloi llwydion, mae materion eraill yn ymwneud â mynd yn sownd mewn leiniau a rhwydi ar ddamwain a lleihau neu newid faint o fwyd sydd ar gael.