Riffiau

Mae riffiau Pen Llŷn a’r Sarnau yn hynod amrywiol ac yn cynnal amrywiaeth eang iawn o anifeiliaid a phlanhigion y môr gan adlewyrchu’r ystod eang o ffactorau ffisiograffeg o amgylch y safle megis tonnau, ffrydiau llanw, amrywiaeth ym math gwely’r môr, sgwriad y llanw, pa mor glir yw’r dŵr ac amrywiaeth yn nyfnder y dŵr.

Mae modd defnyddio’r term riff ar gyfer gwahanol fathau o strwythurau sy’n cynnwys riffiau sydd wedi’u ffurfio o greigiau a cherrig i riffiau biogenig a grëwyd o greaduriaid byw. Mae pob math o riff yn cynnal gwahanol gymuned o anifeiliaid.

Mae’r mathau a ganlyn o riff i’w gweld yn yr ACA:

  • Riffiau rhynglanwol creigiog
  • Riffiau islanwol creigiog o amgylch Pen Llŷn (creigwely, clogfeini, coblau, cymysg) 
  • Riffiau islanwol coblau a chlogfeini sylweddol – y Sarnau 
  • Riffiau biogenig
    • Riffiau cragen ddilyw 
    • Riffiau cragen las Musculus 
    • Riffiau llynghyren ddiliau
  • Riffiau carbonad a ffurfir gan nwy methan yn gollwng o wely’r môr 

Riffiau rhynglanwol creigiog

Mae riffiau rhynglanwol creigiog i’w gweld o gwmpas llawer o draethau’r ACA. Mae’r rhan fwyaf o’r riffiau rynglanwol yn y safle yn cynnwys un ai wynebau neu glogfeini serth y creigwely.

Hawlir y riff rynglanwol gan gen ym mhen uchaf y traeth a chan wahanol fathau o wymon yn rhannau uchaf, canol ac isaf y riff hon. Mae creaduriaid arbenigol wedi datblygu mewn pyllau trai, dan glogfeini a hefyd mewn rhigolau creigiog sy’n profi ymchwydd cryf y dŵr (rhigolau ymchwydd). Ceir enghreifftiau hefyd o gyfoeth o rywogaethau o’r môr-wiail sydd o bwys cenedlaethol a chymunedau o’r gwymon brown mewn mannau isaf o’r traeth sydd yn wyneb llanw cryf.

 

Riffiau islanwol creigiog o amgylch Pen Llŷn

Mae modd gweld y riffiau creigiog sydd dan y môr o amgylch y rhan fwyaf o Ben Llŷn a gallant ymestyn am fwy nag un cilomedr i mewn i’r môr. 

Mae faint o donnau a llif y llanw sydd o gwmpas y penrhyn ac sy’n taro yn erbyn y riffiau yn amrywio’r amgylchiadau i’r riffiau ddatblygu ynddynt. Yn gyffredinol, hawlir y riffiau dŵr bas o amgylch Pen Llŷn ac Ynys Enlli gan dyfiant trwchus o wahanol fathau o fôr-wiail gyda thywarch helaeth a ffrwythlon o wymon coch yn tyfu ymhlith y môr-wiail ac oddi tano. Ar ochr ddeheuol y penrhyn lle ceir riffiau clogfeini a chobl, wedi’u hamgylchynu gan waddod, mae gwahanol gymunedau’n datblygu gyda môr-wiail melys a gwymon brown arall yn fwy cyffredin ymhlith tywarch amrywiol o wymon coch ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn. Wrth i chi fynd yn ddyfnach a phlanhigion yn methu goroesi mwyach, dechreua anifeiliaid hawlio’r lle. Yn eu plith mae amrywiaeth eang o wahanol rywogaethau megis sbyngau, cwrelau meddal, anemonïau, môr-binwydd (hydroidau), bryosonaid a chwistrelli môr a rhywogaethau symudol sy’n dibynnu arnynt.

Riffiau islanwol coblau a chlogfeini creigiog sylweddol - y Sarnau

Sarn Badrig, Sarn-y-Bwch a Chynfelyn yw’r tair riff a elwir yn Sarnau. Yr hyn ydynt yw mariannau rhewlifol (cefnennau o graig a symudwyd ac a godwyd gan symudiadau rhewlifoedd yn ystod y rhewlifiant diwethaf) ac maent wedi’u gwneud yn llwyr o glogfeini, coblau a cherrig mân yn gymysg gyda gwahanol raddfeydd o waddod. Maent yn strwythurau unigryw sy’n ymestyn allan i’r môr am sawl cilomedr. Amgylchynir y riffiau gan wastadeddau gwaddod ar bob ochr ac maent yn wyneb llif y llanw a thonnau felly, yn ogystal â’r gallu i wrthsefyll natur symudol is-haen y riffiau, nodweddir y riffiau gan nifer fawr o rywogaethau sy’n ymwrthod rhag cael eu gorchuddio gan dywod.

Gan mwyaf, mae’r riffiau mewn dŵr bas (llai na 10m o ddyfnder) er eu bod yn ymestyn i ddŵr dyfnach ym mhellafoedd y de-orllewin. Yn union fel y riffiau o amgylch Pen Llŷn, caiff y riffiau creigiog bas hyn eu hawlio gan wymon. Fodd bynnag, oherwydd natur aflonyddol is-haen y riff, nid oes modd i’r môr-wiail sefydlu; yn hytrach, mae cymunedau o wymonau sy’n cael eu hawlio gan rywogaethau sy’n medru gwrthsefyll amgylchiadau symudol a lle ceir sgwriad, yn datblygu ac yn ffynnu gan greu gwelyau gwymon trwchus ar draws y riffiau. Mae gwymon carrai (Chorda filum), gwymon melys (Laminaria saccharina) a gwymon coch yn ffynnu ar grib y riff neu’n agos ati a cheir coedwigoedd helaeth o chwyn codau (Halidrys siliquosa) ynghyd â chasgliad o gyfoeth o wymonau eraill ar rannau eraill o’r riffiau. Yn rhannau dyfnaf y riffiau, ceir cymunedau a hawlir gan anifeiliaid, yn cynnwys cramenogion, cnidariaid, sbyngau, hydroidau a bryosoaid crawennog.

Riffiau biogenig

Riff cragen ddilyw – mae ACA Pen Llŷn a’r Sarnau yn cynnal un o’r ddwy riffiau cragen ddilyw sydd ar ôl ym Môr Iwerddon (mae trydedd riff, un sydd wedi’i difrodi, yng ngogledd Iwerddon). Mae’r riff cragen ddilyw yn yr ACA oddeutu bedwar cilomedr allan i’r môr oddi ar arfordir gogleddol Llŷn. Yma mae gwely’r môr sy’n gymysgedd o waddod a choblau wedi’i orchuddio gan wely trwchus o gregyn dilyw Modiolus modiolus. Mae’r riff yn o leiaf gant a hanner o flynyddoedd oed ond yn debygol o fod  yn llawer hŷn. Mae oes hir i’r cregyn dilyw. Mae samplau o riff cragen ddilyw gogledd Llŷn wedi dangos bod cregyn dilyw unigol dros hanner cant o flynyddoedd oed ond bod cregyn ifainc hefyd yn ymddangos ar y riff.

Mae’r cregyn yn glynu wrth ei gilydd gan edeifion arbennig (byssus) ac mae’r rhain yn dal silt mân a’r deunydd gwastraff – gwaddod – a gynhyrchir gan y cregyn (pseudofaeces) a, thrwy hyn, yn adeiladu strwythur y riff. Mae’r riff hon yn cynnwys tonnau ar wely’r môr a grëir gan y cregyn eu hunain – mae’r rhan fwyaf o’r cregyn byw yn byw ar grib pob ton a’r cregyn gweigion yn y pantiau.  

Mae’r cyfuniad o is-haenau ar ffurf cregyn dilyw caled, gwahanol raddfeydd o waddod a’r cyfleon i rywogaethau dirgel gael hyd i gysgod ymhlith y cregyn, yn rhoi ystod eang o isgynefinoedd – mae hyn yn cynnal biomas uchel o amrywiaeth eang o rywogaethau sy’n byw ymhlith matrics y gwely o gregyn (infauna) ac ar wyneb y riff o gregyn (epifauna). Mae cwrel meddal, molysgiaid, ecinodermiaid, anemonïau, cramenogion a physgod yn rhai o’r rhywogaethau mwyaf amlwg a mwy sy’n gysylltiedig â’r riff cragen ddilyw. Credir bod riffiau o’r math hwn yn hynod gynhyrchiol ac yn debygol o chwarae rôl bwysig yn yr ecosustem forol.

Riff cragen las Musculus  - Musculus discors – mae’n rhywogaeth fechan iawn sydd, o bryd i’w gilydd, yn byw mewn clystyrau trwchus sydd ynghlwm wrth graig  a gwaddodion graeanog lle mae’n atgyfnerthu wyneb y gwaddod trwy  rwymo hwnnw a haen drwchus o pseudofaeces gyda’i gilydd gyda’i edeifion byssus. Mae Musculus discors yn rhywogaeth gyffredin ond ychydig iawn o enghreifftiau o welyau trwchus o’r rhywogaeth hon sydd yn Ynysoedd Prydain ac mae’r rhan fwyaf o’r cofnodiadau hyd heddiw yn rhai a ddaw o riffiau oddi ar arfordir gogleddol Pen Llŷn. Mae sawl llecyn mawr (cannoedd o fetrau o hyd, o bosib) o Musculus i’w weld yn crawennu’r greigwely a riffiau clogfeini ar hyd arfordir gogleddol Pen Llŷn oddi ar Porth Ysgadan a Phorth Colmon.

Riff llynghyren ddiliau – Mae’r llynghyren Sabellaria alveolata yn ffurfio tiwbiau o graean tywod ac mae’n byw ynddynt. Dan amgylchiadau penodol, mae’r llynghyren yn creu clystyrau o’r tiwbiau hyn i greu riffiau sy’n edrych fel diliau mêl enfawr ynghlwm wrth y graig. Mae gan riffiau llynghyren ddiliau neu Sabellaria yn yr ACA gyfoeth o rywogaethau sy’n dibynnu arnynt am fwyd ac ati. Daw hyn oherwydd bod strwythurau’r riff yn sefydlogi ac yn aml iawn yn creu pyllau trai mewn dŵr a fyddai, fel arall, yn ddyfroedd mwy symudol ac yn draenio’n rhwydd. Mae gan Gymru gyfran uchel o adnodd riff llynghyren ddiliau’r DU gyda chyfran sylweddol ohono yn ACA Pen Llŷn a’r Sarnau.

Strwythur riff carbonad a ffurfir wrth i nwy methan ollwng o wely’r môr

Yn ddiweddar canfuwyd strwythur riff anarferol yn y dyfroedd bas (llai na deg metr o ddyfnder) i’r gogledd-orllewin o Abermaw. Adwaenir y riff a adnabuwyd fel ‘Riff Holden’ – fe’i gwnaed o fath penodol o galsiwm carbonad  a ffurfir wrth i nwy methan ollwng o wely’r môr. Hon a’r riffiau cysylltiedig yw’r enghreifftiau cyntaf y gwyddys amdanynt o’r cynefin hwn yn nyfroedd bas y DU.

Mae modd cymharu’r riffiau hyn â ‘riffiau byrlymus’ y Kattegat yn Denmarc a byddent bron yn sicr yn gymwys i fod yn gynefin Atodiad I ychwanegol dan y Cyfarwyddyd Cynefinoedd  - strwythurau tanfor wedi’i greu gan nwy sydd yn gollwng – ond, yn y cyfamser, byddir yn rhoi sylw iddynt fel rhan o nodwedd riffiau’r ACA.

Mae’r riff carbonad hyn yn cynnal casgliad diddorol o rywogaethau. Mae gwahanol dopograffi’r is-haenau a natur feddal y graig yn cynnig sawl is-gynefin a holltau ar gyfer rhywogaethau – mae strwythur y riff yn llawn tyllau ac wedi’i dyllu gan folysgiaid deufalf a sbyngau ac mae’n cynnig hafan i nifer fawr o anifeiliaid dirgel gan gynnwys anthosoaid (anemonïau, cwrelau meddal ac anifeiliaid perthynol), cramenogiaid, molysgiaid a physgod. Mae’r casgliadau hyn o rywogaethau yn wahanol i’r rhai a welir ar is-haenau creigiog eraill gerllaw. Ymddengys hefyd bod toreth o rywogaethau symudol yn ddibynnol ar y riff.

 

01286 679495