Lagynau arfordirol
Ehangder o ddŵr arfordirol bas yw lagynau ac ynddynt wahanol gyfaint o halen a dŵr - dŵr sydd wedi’i wahanu oddi wrth y môr, un ai’n llwyr neu’n rhannol gan fanciau tywod, graean neu, yn llai aml, greigiau. Gall halltedd amrywio o ddŵr lled hallt i ddŵr lle ceir llawer o halen gan ddibynnu ar faint o law a gafwyd, anweddu a thrwy gael mwy o ddŵr croyw yn sgil stormydd, y môr yn gorlifo yn y gaeaf neu gyda llanw a thrai.
Mae yna un lagŵn arfordirol yn ACA Pen Llŷn a’r Sarnau SAC – lagŵn Morfa Gwyllt – sydd ar ochr ddeheuol ceg afon Dysynni. Hwn yw’r unig lagŵn hallt ar hyd arfordir Bae Ceredigion ac yn un o bedwar lagŵn hallt a adnabuwyd yng Nghymru.
Cafodd y lagŵn ei greu yn sgil newidiadau dynol i’r tafod graean yng ngheg yr afon oedd yn ymestyn y bar graean ac yn cadw pant creiriol o hen gwrs yr afon ac a sefydlwyd fel y lagŵn hidlo. Er gwaethaf dull artiffisial ei greu, mae’r lagŵn yn unol â’r diffiniad Ewropeaidd o lagynau arfordirol.
Gwarchodir y lagŵn rhag yr ochr sydd agosaf at y môr gan fanc o raean. Mae strwythur y graean a’r traeth cyfagos yn bwysig gan ei fod yn caniatáu i ddŵr môr lifo i mewn trwy broses hidlo araf nad oes neb yn ei deall yn iawn ar hyn o bryd, ond sy’n caniatáu i ddŵr hallt greu amgylchiadau lled hallt yn y lagŵn. Mae glaw yn cael dylanwad mawr ar y lagŵn a phan bydd glaw mawr, bydd llai o halen yn nŵr y lagŵn.
Mae strwythur a swyddogaeth y lagŵn wedi ei gwneud yn bosib i nifer o rywogaethau ei gymryd drosodd. Oherwydd natur eithafol yr amgylchedd y maent yn ei gyflwyno, mae lagynau yn gynefinoedd dan straen gydag, yn nodweddiadol, lai o rywogaethau a chreaduriaid arbenigol sy’n medru goroesi’r amgylchiadau eithafol. Mae pedair rhywogaeth ar ddeg wedi’i chofnodi o Forfa Gwyllt, gyda rhai ohonynt yn doreithiog iawn. Mae tair o’r rhywogaethau hyn yn arbenigo mewn lagynau (h.y. rhywogaethau y mae eu dosbarthiad yn Ynysoedd Prydain wedi’i gyfyngu’n llwyr neu gan mwyaf i lagynau hallt arfordirol). Deudroediaid (cramenogion bychain) Lekanosphaera hookeri, y bryosoad Conopeum seurati a’r alga gwyrdd Chaetomorpha linum yw’r rhywogaethau hyn. Maent yn medru dioddef yr ystod eithaf eang o gyfyngiadau amgylcheddol a’r amrywiaeth ynddynt – i oroesi maent yn dibynnu ar fodolaeth amgylchiadau penodol (ffisegol, cemegol a biolegol). Er enghraifft, rhaid i un o’r rhywogaethau sy’n arbenigo mewn lagynau, y bryosoad Conopeum seurati gael is-haen caled o blanhigion, carreg, pren neu is-haen artiffisial er mwyn goroesi gan ei fod yn creu cymuned grawennog dros y wyneb. At hyn, mae’r bryosoad yn bwydo ar blancton yn y dŵr ac fe’i gwelir gan amlaf ar is-haenau caled ger wyneb y dŵr.