Banciau Tywod
Nodweddir banciau tywod islanwol gan waddodion tywodlyd sydd wedi’u gorchuddio drwy’r amser gan ddŵr môr bas. Fel arfer, fe’u lleolir mewn dyfnderoedd o lai nag 20m ond gallant gynnwys ardaloedd dyfnach. Mae’r banciau tywod islanwol yn cynnwys ardaloedd o fanciau arbennig (megis rhai hirgul, crwn neu siapiau ‘tomen’ afreolaidd) ac ardaloedd cyfagos o waddodion tywodlyd cysylltiedig.
Mae amrywiaeth a’r mathau o fywyd gwyllt sy’n gysylltiedig â banciau tywod islanwol wedi’u pennu’n benodol gan fath y gwaddodion ynghyd ag amrywiaeth o ffactorau ffisegol, cemegol a hydrograffig eraill.
Ym Mhen Llŷn a’r Sarnau, y banciau tywod yw banc tywod Tripods i’r gorllewin o Fraich Anelog, banc tywod Bastram Shoal i’r de o Ynys Enlli a banc tywod Devil’s Ridge i’r de-ddwyrain o Fae Aberdaron a hefyd ardal i’r gorllewin o Abermaw, a nodir ar siartiau fel banc Four-fathom.
Pennir math y gwaddodion sy’n ffurfio bob banc tywod yn bennaf gan natur cyflenwad y gwaddodion a dylanwad prosesau hydrodynameg. Mae’r banciau tywod sy’n agored i lanw a thonnau cryfach (e.e. y Tripods) wedi’u creu yn bennaf o waddodion mwy garw na’r rheini mewn amodau mwy cysgodol (megis banc Four-Fathom). Mae gwaddodion y banciau tywod yn bennaf yn dywod canolig er mae gan ochr banc tywod Devil’s Ridge sy’n wynebu’r tir ac ochr Bastram Shoal sy’n wynebu’r môr waddodion mwy garw gyda chyfran fwy o raean. Mae banc Four-Fathom i’r gorllewin o Abermaw yn cynnwys tywod mân.
Ceir amrywiaeth o rywogaethau bywyd gwyllt yn byw yn y banciau tywod islanwol, arnynt ac yn gysylltiedig â nhw. Mae math ac amrywiaeth y bywyd gwyllt yn adlewyrchu math y gwaddodion sy’n bresennol a’r grymoedd sy’n effeithio ar y banciau tywod. Mae’r bywyd gwyllt sy’n byw yn bennaf o fewn y gwaddodion yn cynnwys llyngyr, cramenogion megis berdys a chrancod, molysgiaid megis cregynbysgod ac echinodermau megis sêr môr. Ceir hefyd filiynau o anifeiliaid microsgopig mân sy’n byw yn y llefydd bychain rhwng y gronynnau tywod ac maent hefyd yn rhan o fywyd gwyllt y banc tywod ac yn bwysig yn nhermau cynhyrchedd cyffredinol cymunedau’r gwaddodion hyn. Mae rhywogaethau anifeiliaid eraill sy’n byw ar arwyneb y gwaddodion, neu’n union tano, yn rhan o gasgliad mwy symudol o fywyd gwyllt a ble ceir cerrig mawr yn y gwaddodion, gall anifeiliaid eraill megis hydroidau lynu at arwyneb y banc tywod.