Dolydd Heli yr Iwerydd – Glauco-Puccinellietalia maritimae
Mae dolydd heli yr Iwerydd yn fath o gynefin sy’n cwmpasu amrywiaeth o wahanol gymunedau morfeydd heli. Mae dolydd heli yr Iwerydd yn datblygu pan fo llystyfiant haloffytig (h.y. planhigion sy’n byw mewn amodau pridd hallt) yn cytrefu gwaddodion rhynglanw meddal o laid a thywod mewn ardaloedd sydd wedi’u gwarchod rhag tonnau cryf. Mae’r llystyfiant hwn yn ffurfio rhannau canol ac uchaf morfeydd heli, ble mae gorlif llanw yn parhau i ddigwydd ond yn llai aml ac am gyfnodau byrrach nag mewn ardaloedd sy’n agosach at y marc dŵr isel mewn aberoedd a lleoliadau arfordirol.
Mae dôl heli yr Iwerydd o fewn yr ACA wedi’i lleoli o fewn yr aberoedd a ganlyn ar arfordiroedd Meirionnydd a Cheredigion: aberoedd Glaslyn/Dwyryd, Atro, Mawddach a Dyfi. Mae cymunedau morfeydd heli dôl heli yr Iwerydd yn amrywio o lystyfiant morfeydd isel trawsnewidiol i lystyfiant morfeydd uchel eithriadol sy’n aml dan eu sang gyda marchwellt arfor Elytrigia atherica. Mae gan y morfeydd heli hyn gylchfaoedd sy’n cynnwys tua saith cymuned wahanol. Mae’r ardaloedd ehangaf i’w gweld yn Aber Dyfi gyda dros 380 hectar, tra bod yr amrywiaeth fwyaf o fathau o lystyfiant i’w gweld yn Aber Mawddach.
Nodweddir y dolydd heli hyn fel arfer gan bresenoldeb gwellt y morfa, ond gallant hefyd gynnwys ardaloedd a nodweddir gan rywogaethau morfeydd heli cyffredin eraill megis peisgwellt coch, seren y morfa neu frwynen arfor. Mewn gwirionedd, ac eithrio cylchfa arloesol y Salicornia ac unflwyddiaid eraill sy’n wynebu’r môr, mae dolydd heli yr Iwerydd yn cynnwys yr holl gymunedau morfeydd heli canol ac uchaf, ac mae’n bosib eu bod wedi’u gwahanu i nifer o wahanol gylchfaoedd. Ceir hefyd gylchfaoedd trawsnewid pwysig i mewn i gynefinoedd eraill megis gwernydd, corsydd a thwyni tywod.
Mae nifer o ffactorau yn dylanwadu ar ddosbarthiad, graddfa ac ansawdd dolydd heli yr Iwerydd. Ar hyn o bryd, ystyrir nad yw cyflwr yr aberoedd yn ffafriol yn sgil effeithiau addasiadau’r gorffennol a’r rhai diweddar.
Mae nifer o gynefinoedd anarferol yn bresennol yn nolydd heli yr Iwerydd. Mae’r ACA yn cynnwys Eleocharis uniglumis (ysbigfrwyn un cibyn) y morfeydd heli, sy’n brin iawn, ond sy’n ymddangos yn lleol ar hyd arfordir y gorllewin o Aber Dyfi tuag at y gogledd. Mae dôl heli yr Iwerydd hefyd yn rhoi cynefin ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau planhigion prin neu anghyffredin hefyd, megis llymfrwynen, tusw troellog, lafant y môr blodau llac, ysbigfrwyn bach a’r lleidlys Cymreig.
Mae’r stoc domestig sy’n pori yn chwarae rhan bwysig wrth bennu cymeriad y morfa heli hwn. Mae rhai ardaloedd yn cael eu pori’n ysgafn ac felly mae ganddynt strwythur llystyfiant da. Gall y rhain fod yn bwysig ar gyfer adar hirgoes sydd yn magu. Mae ardaloedd eraill yn cael eu pori’n drymach gan greu mannau o laswellt byr all ffurfio ardaloedd bwydo pwysig ar gyfer adar dŵr.