Gwastadeddau llaid a tywod rhynglanwol
Mae gwastadeddau llaid a tywod rhynglanwol yn ardaloedd o waddodion sydd dan ddŵr yn ystod llanw uchel ac yn y golwg yn ystod llanw isel.
Mae gwastadeddau llaid a tywod rhynglanwol yr ACA yn bresennol o fewn:
- Y tri phrif aber, Glaslyn/Dwyryd, Mawddach a Dyfi
- Mewn lleoliadau arfordirol agored ar draethau tywodlyd sydd yn y golwg ac sy’n rhannol yn y golwg ym Mhorth Dinllaen ar arfordir gogleddol Llŷn, ar hyd arfordir deheuol Llŷn rhwng Pen-ychain a Chricieth a rhwng Cricieth ac Afon Glaslyn ac ar hyd arfordir Meirionnydd yn Harlech a cheg aberoedd Mawddach a Dyfi.
Mae strwythur y gwastadeddau llaid a tywod rhynglanwol yn amrywio gan ddibynnu ar yr amodau ffisegol a’r grymoedd sydd ar waith (yn benodol i ba raddau y maent yn cael eu heffeithio gan donnau a cherhyntau llanw) ynghyd â natur y gwaddodion sy’n ymddangos yn unrhyw un o’r lleoliadau. Mae’r gwaddodion yn amrywio o dywod garw symudol mewn ardaloedd yr effeithir arnynt gan donnau yn fwy i ehangder gwaddodion mân o gwastadeddau llaid mewn aberoedd a chilfachau morol eraill.
Mae gwastadeddau llaid a thywod rhynglanwol yn cefnogi amrywiaeth o wahanol fathau o fywyd gwyllt. Mae’r rhain yn bennaf yn gymunedau isfilodaidd gydag amrywiaeth o wahanol rywogaethau o anifeiliaid megis llyngyr, molysgiaid a chramenogion sy’n byw o fewn cynefin y gwaddodion. Mae gan fath y gwaddod, ei sefydlogrwydd a faint o halen sydd yn y dŵr ddylanwad mawr ar rhywogaethau’r bywyd gwyllt sy’n bresennol.
Mewn ardaloedd o dywod glân, mwy symudol, mae cymunedau o rywogaethau cryf megis chwain traeth, rhai llyngyr polycetaidd a molysgiaid dwygragennog penodol yn bodoli. Mewn tywod mwdlyd, mae cymunedau amrywiol o rywogaethau yn datblygu, yn cynnwys rhywogaethau megis y lygwn, a llyngyr polycetaidd a molysgiaid dwygragennog eraill. Gall gwlâu sylweddol o gregyn gleision Mytilus edulis ddatblygu ar draethau isaf ardaloedd tywod mwdlyd, a gall gwlâu rhynglanwol o wellt y gamlas Zostera spp, fod yn bresennol. Gwastadeddau llaid yw’r rhai mwyaf sefydlog a gallant gefnogi casgliadau sydd fel arfer dan eu sang gyda niferoedd mawr o lyngyr polycetaidd a molysgiaid dwygragennog. Yn ychwanegol i’r cymunedau isfilodaidd hyn, gall y gwastadeddau llaid a thywod rhynglanwol hyn gefnogi cymunedau o rywogaethau arfilaidd a symudol ac yn aml maent yn ffynhonnell bwysig o fwyd i rywogaethau eraill, megis adar hirgoes ac adar dŵr mewn aberoedd ac ar arfordiroedd.