Ymuno ag ymgyrch glanhau traethau
Gallwch helpu i leihau'r gwastraff sydd ar y traethau drwy ymuno ag ymgyrch glanhau traeth llleol neu ewch ati i gynnal eich #twominutebeachclean eich hun pan fyddwch ar draeth. Drwy gasglu'r ysbwriel, rydych yn lleihau'r effeithiau y gallai'r ysbwriel ei gael ar fywyd morol wrth iddynt fynd yn sownd mewn ysbwriel, llyncu plastigion a chronni cemegolion yn eu meinweoedd.
Hefyd, gall gwaredu ysbwriel effeithio ar yr economi leol. Mae traethau godidog a glân yn sicr o olygu ei bod yn fwy tebygol i dwristiaid barhau i ymweld â'r ardal yn rheolaidd.
Ynghyd â chyflwyno manteision amgylcheddol ac economaidd, mae glanhau traethau hefyd yn ennyn manteision personol gan ei fod yn ffordd wych o dreulio amser yn yr awyr agored, sy'n bwysig i lesiant ac iechyd meddwl. Mae cymryd rhan mewn digwyddiadau ar y traeth hefyd yn rhoi cyfle i gwrdd â phobl sy'n rhannu'r un meddylfryd.
Pan fyddwch yn glanhau traethau, naill ai fel unigolyn neu fel grŵp, sicrhewch eich bod yn glynu at y canllawiau COVID-19 diweddaraf. Hefyd, mae'n bwysig cadw'n saff drwy wisgo cyfarpar gwarchod personol (PPE) digonol, megis y dillad cywir ar gyfer yr amodau, esgidiau priodol a menig (os nad ydych yn defnyddio teclyn codi ysbwriel). Dylid rhoi ysbwriel mewn bagiau bin cryf, a dylid defnyddio bwcedi neu gynwysyddion ar gyfer eitemau a allai rwygo'r bag bin.
Gellir canfod mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau glanhau traethau ar gyfrif Facebook ACA PLAS: www.facebook.com/penllynarsarnau
Mae Digwyddiadau Glanhau Traethau yn aml yn cael eu trefnu gan y sefydliadau a ganlyn, megis: