Gaeafgwsg
Mae rhai anifeiliaid yn gaeafgysgu er mwyn goroesi amgylchiadau amgylcheddol eithafol fel sy'n digwydd dros y gaeaf. Pan fyddant yn gaeafgysgu, mae cyrff yr anifeiliaid yn newid, mae cyfradd y galon a'r anadlu yn arafu, ac mae'r gyfradd metaboledd yn lleihau. Mae hyn yn galluogi i anifeiliaid oroesi drwy ddefnyddio'u braster wrth gefn, felly gallant beidio â bwyta am rai misoedd.
[Lawrlwythwch y pwnc llawn yma]
FFAITH
Mae pob un o'r 17 rhywogaeth ystlum Prydeinig yn gaeafgysgu, fel arfer rhwng mis Tachwedd a mis Ebrill, pan nad oes llawer o bryfaid ar gael i'w bwyta.
Gweithgaredd: Adeiladu gwesty i bryfed
Gweithgaredd awyr agored i adeiladu gwesty i bryfaid, sy'n weithgaredd perffaith i wneud ar dir yr ysgol gan y bydd wedyn yn para am rai blynyddoedd heb fod angen unrhyw waith pellach.
Gweithgaredd: Gaeafgwsg
Gweithgaredd ystafell ddosbarth sy'n gwneud i blant feddwl am y rhywogaethau sy'n gaeafgysgu gyda'r lleoliadau lle byddant yn gaeafgysgu.