🧜♀️Pwrs y fôr-forwyn🧜
Ydych wedi dod o hyd i un o'r rhain wedi ei olchi fyny ar draeth? Mae rhai gwag yn aml i’w gweld ar hyd draethau ACA Pen Llŷn a’r Sarnau
Erioed wedi meddwl beth yn union ydyw nhw?
Coeliwch neu beidio plisgyn neu gasys wyau pysgodyn o’r enw’r Morgi ydi'r rhain (weler llun uchod)
Fel y gwelir yn y llun, mae embryo bach y Morgi yn defnyddio’r pwrs i’w warchod yn y cyfnod cynnar wrth iddo ddatblygu a thyfu i fod yn bysgodyn digon cryf i nofio'r moroedd yn annibynnol
Mae’r tendrilau cyrliog hir y pwrs yn handi er mwyn ei glymu’n sownd i wymon a helpu i gadw’r pwrs yn sefydlog yn ardal feithrin y Morgi
Gall gymryd bron i flwyddyn i Forgi bach ddeor a gadael y pwrs👀
Wyddo chi hefyd fod y Morgi yn bysgodyn sydd yn perthyn i’r Siarc?🦈
📷 Pau Kay ©