Gwylio Dolffiniaid 

Mae'r moroedd o amgylch Cymru a'r DU yn gartref i amrediad eang o rywogaethau morfilaidd. Yn nyfroedd Cymru, y morfil mwyaf cyffredin yw'r llamhidydd a'r dolffin trwynbwl.  Y mwyaf cyffredin yw'r llamhidydd, sy'n bresennol drwy gydol y flwyddyn mewn rhai ardaloedd ac mae lloi i'w gweld ledled Cymru. Dolffiniaid trwynbwl yw'r ail rywogaeth sy'n cael ei chofnodi fwyaf aml yng Nghymru ac fe ellir eu gweld bron drwy gydol y flwyddyn. 

Yn 2016, gan weithio gydag ACA Ceredigion, Cymdeithas Pysgotwyr Cymru, Cyswllt Amgylchedd Cymru ac eraill, bu i ni greu Côd Morol Gwynedd. Mae'r côd yn egluro sut i ymddwyn yn gyfrifol a pharchu bywyd gwyllt wrth fod ar y dŵr. Yn 2017, bu i ni greu codau morol i Ynys Môn a Chonwy hefyd. Mae pob awdurdod lleol wedi mabwysiadu'r côd ac wedi dosbarthu'r côd i bob cwch gofrestredig yn eu sir. Am gopïau o'r cod, cliciwch yma.

Sefydlwyd y rhaglen Gwylio Dolffiniaid yng Ngheredigion fwy nag 20 mlynedd yn ôl. Yn 2016, mewn partneriaeth â Cheredigion, treialodd yr ACA gynllun yn Abersoch. Cynhaliwyd Gwylio Dolffiniaid yn Abersoch hefyd am yr eilwaith yn 2017. Bwriad Gwylio Dolffiniaid yw monitro cydymffurfiaeth gyda'r côd morol a chasglu data i lenwi bylchau yn y dystiolaeth.

Mae Gwylio Dolffiniaid yn Abersoch yn mynd yn dda, gyda nifer o wirfoddolwyr yn cymryd rhan. Mae'r rhaglen yn gofyn i wirfoddolwyr ymrwymo i slot arolygu 2-awr unwaith yr wythnos dros gyfnod yr haf (oddeutu chwe wythnos). Yna, defnyddir y data i bennu lle dylem gyfeirio ein hymdrechion wrth hyrwyddo'r côd morol. 

Am ragor o wybodaeth, darllenwch Gwylio Dolffiniaid PLAS, cyflwyniad.

Os hoffech chi wirfoddoli ar gyfer Gwylio Dolffiniaid neu ddarganfod mwy, cysylltwch â ni:

info@penllynarsarnau.co.uk
01286 679 495

01286 679495