Prosiect Ecosystemau Morol Llŷn
Mae'r Prosiect Ecosystemau Morol Llŷn yn brosiect peilot sydd wedi'i leoli ym Mhen Llŷn ac yn esblygiad o waith Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau (ACA PLAS). Datblygwyd y prosiect hwn o argymhellion a wnaed mewn dogfen a gynhyrchwyd gan Gymdeithas Pysgotwyr Cymru o'r enw 'Striking the Balance' a gynigiai ddull o reoli'r môr i wella ein dealltwriaeth o'r amgylchedd morol a hyrwyddo adferiad a gwytnwch ecosystemau heb gael effaith andwyol ar bysgotwyr a chymunedau lleol; dull fyddai hefyd yn diogelu bywyd diwylliannol ac economaidd ac yn amddiffyn pysgodfeydd traddodiadol a gweithgareddau hamdden. Mae'r dull a ddefnyddir i weithredu'r prosiect a'r dyheadau ar ei gyfer wedi'u cefnogi mewn egwyddor gan ddatblygiadau deddfwriaethol diweddar yng Nghymru: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, a Bil yr Amgylchedd 2016.
Cynhyrchodd y prosiect adroddiad yn edrych ar ymagwedd ar sail ecosystem pysgodfa Llŷn, ac mae'r prosiect yn parhau i drafod materion pysgota a chadwraeth, archwilio prosiectau'r dyfodol, a chydweithio gyda physgotwyr Llŷn.
Cliciwch yma am gopi o:
- Exploring co-management and an ecosystem based approach in the Llŷn marine area, Chwefror 2016
- Atodiadau