Y Cylchred ddŵr
Defnyddir y cylch dŵr i ddangos sut mae dŵr yn symud o amgylch y blaned. Mae’n ffordd weledol i'n hatgoffa sut mae ein dŵr yn cael ei rannu a'i ailddefnyddio, a pha mor hawdd y mae'r deunyddiau llygredig yn cael eu lledaenu ledled y byd drwy gyfrwng dŵr. Mae'r cylch dŵr hefyd yn ffordd ddefnyddiol o gyflwyno termau allweddol megis anweddiad a dyddodiad wrth eu cysylltu'n weledol â'u hystyron.
FFAITH
Gall y dŵr mewn cronfeydd tanddaearol, a elwir yn ddyfrhaenau, aros yno am filoedd o flynyddoedd.
Gweithgaredd: Olwyn ddŵr
Gweithgaredd creadigol yn yr ystafell ddosbarth i greu fersiwn syml o'r cylch dŵr.
Gweithgaredd: Soseri hallt
Prosiect gwyddoniaeth hawdd i'w drefnu sy'n dangos sut mae'r cylch dŵr yn gweithio, ac yn rhoi cyfle i'r plant fonitro'r gyfradd anweddu dros ychydig ddyddiau.