Cadwyn fwyd
Mae popeth byw yn dibynnu ar ei gilydd i oroesi, ac mae cadwyn fwyd yn dangos sut y mae ynni yn symud o un organeb i organeb arall. Pan fydd cadwyni bwyd yn gorgyffwrdd neu'n cydgysylltu maent yn cael eu galw yn we bwyd. Dyma'r blociau adeiladu sylfaenol a ddefnyddir i ddeall systemau ecolegol, a gellir eu defnyddio i helpu rhagweld effeithiau newidiadau i'r amgylchedd.
FFAITH
Gall siâp dannedd mamal eich helpu i ddarogan pa fath o fwyd maent yn ei fwyta. Defnyddir dannedd molar fflat a llydan i gnoi planhigion, a defnyddir blaenddannedd miniog i rwygo cig.
Gweithgaredd: Canfod y gadwyn fwyd
Dyma gêm sy'n hawdd i'w threfnu, y gellir ei chwarae y tu fewn neu tu allan, sy'n annog trafodaeth am sut y mae cadwyni bwyd yn cael eu ffurfio ac yn cydgysylltu.
Gweithgaredd: Ysglyfaethwr yn erbyn ysglyfaeth
Gêm fywiog yw hon sy'n dangos pa mor bwysig yw cynefin benodol i'r rhywogaeth sy'n ysglyfaeth i'w helpu i oroesi.
Gweithgaredd: Gwneud cadwyn fwyd
Gweithgaredd ystafell ddosbarth sy'n rhoi cyfle i ddisgyblion ddefnyddio eu gwybodaeth am gadwyni bwyd.