O'r Mynydd i'r Môr

Mae prosiect O’r Mynydd i’r Môr yn gweithio ar y cyd gyda phobl leol yr ardal rhwng Afon Dyfi i’r Gogledd ac Afon Rheidiol i’r De ac yn fewndirol hyd nes Llanidloes, gyda’r nod o archwilio cyfleoedd i ddatblygu syniadau ar gyfer rheoli tir a môr yn gydweithredol er mwyn helpu natur a phobl i ffynnu. Trwy adfer natur ac ecosystemau ar draws ffiniau perchnogaeth tir, mae'r prosiect yn ceisio datrys rhai o'n heriau amgylcheddol mwyaf gan gynnwys effeithiau newid hinsawdd.

Ers ail-lansio ym mis Mehefin 2020 gydag RSPB Cymru yn cydlynu’r prosiect yn ystod y cyfnod datblygu hwn, mae'r prosiect wedi bod yn cynnal sgyrsiau trwy sesiynau galw heibio a gweithdai ledled yr ardal, gyda dros 1000 o bobl yn ymwneud â datblygiad y prosiect hyd yn hyn. Mae'r gymuned bellach wedi cynllunio gweledigaeth:

Ecosystem gyfoethog a chysylltiedig â natur, sydd yn rhedeg o'r tir i'r môr a fydd yn sicrhau buddion i fywyd gwyllt a phobl heddiw ac i genedlaethau'r dyfodol, gan ddathlu'r ardal a diwylliannau lleol.

Er mwyn helpu i gyflawni'r weledigaeth hon, mae'r prosiect bellach yn llunio ac yn datblygu'r syniadau a chasglwyd yn ystod yr 18 mis diwethaf i gynhyrchu cynllun gweithredu strategol ac ysbrydoledig gyda phobl leol yn ganolog iddo.

Gallwch ddarllen mwy am sut mae'r prosiect hwn wedi datblygu trwy ddull cyd-ddylunio ar www.summit2sea.wales.

 

01286 679495