Prosiect Morwellt Porthdinllaen
Mae Porthdinllaen yn bentref bychan arfordirol sy'n gorwedd ar arfordir gogleddol Pen Llŷn ger pentref Morfa Nefyn ac fe saif ar ben mwyaf gogleddol ACA Pen Llŷn a'r Sarnau. Mae'n lleoliad godidog sy'n cynnwys nifer fechan o adeiladau a thŷ tafarn y Tŷ Coch yn y canol.
Porthladd pysgota oedd Porthdinllaen yn wreiddiol, a hynny yn sgil y bae cysgodol mawr a thros 40 ha o angorfeydd cysgodol sydd yno. Mae'r harbwr naturiol hwn yn lloches diogel i gychod yn y cyffiniau. Heddiw, yn sgil amodau cysgodol naturiol y bae, mae nifer o gychod pysgota graddfa fechan a nifer fawr o gychod hamdden yn defnyddio Porthdinllaen.
Mae Porthdinllaen hefyd yn arbennig ar gyfer ei dirwedd, ei forlin a'i fywyd gwyllt. Ceir cyfoeth o gynefinoedd a bywyd gwyllt, gan gynnwys morwellt, yn y môr o amgylch Porthdinllaen. Ar lanw isel, gallwch weld y morwellt yn ymestyn allan tua'r bae. Mae morwellt yn rhan annatod o’r ACA ac yn un o’r rhesymau pam fod yr ardal hon mor arbennig. Mae gwely morwellt Porth Dinllaen yn un o’r rhai mwyaf a’r dwysaf yng ngogledd Cymru ac mae arolygon diweddar yn amcangyfrif fod ei arwynebedd gyfystyr â 46 cae pêl-droed.
Mae'r morwellt ym Mhorthdinllaen yn rhan o nodwedd gwastadeddau llaid a thywod rhynglanwol ACA PLAS. Mae'r nodwedd hon mewn cyflwr anffafriol. Un rheswm am hyn yw effaith angori ac angorfeydd ar y morwellt ym Mhorthdinllaen.


Nod y prosiect yw datblygu a gweithredu opsiynau rheoli fydd yn gwella cyflwr y morwellt a chaniatáu i ddefnydd presennol y bae barhau. Y nod yw datblygu a gweithredu'r dewisiadau rheoli hyn mewn partneriaeth llawn gyda rhan-ddeiliaid.
Adroddiadau a chyhoeddiadau prosiect (cliciwch i lawrlwytho):
- Morwellt PLAS – Nodyn Gwybodaeth 2017
- Morwellt PLAS – Astudiaeth Ddesg Gychwynnol
- Morwellt PLAS – Taflen
- Morwellt PLAS – Poster
- Morwellt PLAS – Mat Diod
- Morwellt PLAS 2012 – Arolwg ac Effaith Angorfeydd
- Morwellt PLAS 2014 – Opsiynau ar gyfer monitro
- Morwellt PLAS 2015 – Adfer creithiau angorfeydd
- Morwellt PLAS 2012 – Dadansoddiad Data o Sampl Gwaddodion
- Morwellt PLAS 2012 – Crynodeb Samplu Gwaddodion
- Morwellt PLAS 2015 – Adolygiad Porthdinllaen
- Morwellt PLAS 2017 - Effaith Cerbydau ar y morwellt
- Morwellt PLAS 2018 - Adolygiad Angorfeydd a Modelu
Am ragor o ddelweddau o forwellt, cliciwch yma.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni:
info@penllynarsarnau.co.uk
01286 679 495