Colli Cynefin
Dywedir bod cynefin wedi'i golli pan nad yw'r amgylchiadau amgylcheddol bellach yn ffafriol ar gyfer y rhywogaeth sydd wedi addasu i fyw yno. Mae colli cynefinoedd wedi'i adnabod fel un o'r prif fygythiadau i fioamrywiaeth byd-eang, ac er bod sawl rheswm pam ei fod yn digwydd, yr un yw'r canlyniad. Mae poblogaethau yn cael eu rhannu, mae gweddill yr adnoddau yn cael eu rhoi dan bwysau a bydd rhywogaethau yn wynebu llawer mwy o gystadleuaeth, sydd yn y pendraw yn arwain at golli rhywogaethau.
Lawr lwythwch y pwnc Colli Cynefin yn ei gyfanrwydd yma neu gallwch fynd yn syth i weithgareddau, taflenni gwaith ac adnoddau ychwanegol isod.