Cynllun Bioddiogelwch PLAS

Mae rhywogaethau cynhenid yn blanhigion ac anifeiliaid sy'n tyfu ac yn byw yma'n naturiol. Dros y cannoedd o flynyddoedd diwethaf rydym wedi cludo llawer o rywogaethau ledled y byd y tu allan i'w hamrediad naturiol, yn ddamweiniol a thrwy ddyluniad. Gelwir y rhain yn rhywogaethau estron. Gall nifer fach o'r rhywogaethau estron hyn gael effaith ddifrifol ar rywogaethau lleol, ein hiechyd a / neu'r economi leol. Gelwir y rhain yn rhywogaethau estron ymledol (INNS). Mae INNS morol yn fygythiad sylweddol i fioamrywiaeth fyd-eang a gallant gael effeithiau cymdeithasol ac economaidd niweidiol ar weithgareddau fel pysgota, llongau ac acwafeithrin.

Gall mesurau bioddiogelwch atal cyflwyno a lledaenu INNS a chyfyngu ar y tebygolrwydd y bydd rhywogaeth yn dod i mewn i ardal yn y lle cyntaf; mae mesurau o'r fath yn arbennig o bwysig ar gyfer ecosystemau morol, lle dangoswyd bod technegau difa a rheoli yn llai effeithiol.

Gobaith y prosiect hwn yw datblygu cynllun bioddiogelwch ar gyfer ACA PLAS a llywio cynlluniau bioddiogelwch effeithiol ar gyfer Cymru gyfan. Agwedd hanfodol ar y prosiect yw ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol fel pysgotwyr lleol a Grŵp Cyswllt ACA i sicrhau ein bod yn defnyddio'r wybodaeth orau bosibl ac yn cynhyrchu cynllun sy'n effeithiol ac yn hawdd ei ddefnyddio.

Cyflwynir y prosiect mewn 3 cham:

  1. Casglu tystiolaeth i danategu cynllunio bioddiogelwch ar gyfer PLAS
  2. Datblygu cynllun bioddiogelwch ar gyfer PLAS i leihau cyflwyniadau anthropogenig newydd a lleihau lledaeniad INNS morol presennol
  3. Gweithredu'r cynllun bioddiogelwch a monitro ei effeithiolrwydd

Rydym am sicrhau bod y cynllun bioddiogelwch hwn yn gweithio. Mae angen iddo fod yn effeithiol wrth atal cyflwyno a lledaenu INNS ond mae angen iddo hefyd fod yn hawdd ei ddefnyddio ac yn briodol ar gyfer yr ardal. Dyma pam mae angen eich help arnom. Os hoffech wybod mwy am y prosiect, os oes gennych rywfaint o wybodaeth i'w rhannu neu os hoffech gymryd rhan mewn unrhyw ffordd, anfonwch e-bost atom trwy plasbiosecurity@naturalresourceswales.gov.uk.

I gael gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweithdai edrychwch ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol:

Facebook: Pen Llŷn a’r Sarnau
Twitter: @ACA_PLAS_SAC

Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Forwrol a Physgodfeydd Ewropeaidd (EMFF).

 

Fideo am INNS:

01286 679495